Datrys dirgelwch Tŵr Gweno

Chwith: Llun o Tŵr Gweno ac arno ddyddiad 1908. Llun o gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: Albwm David John Saer.
De: Llun o’r arfordir lle saif Tŵr Gweno. Chwefror 2023. Llun gan yr Athro Stephen Tooth, Prifysgol Aberystwyth.

Chwith: Llun o Tŵr Gweno ac arno ddyddiad 1908. Llun o gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: Albwm David John Saer. De: Llun o’r arfordir lle saif Tŵr Gweno. Chwefror 2023. Llun gan yr Athro Stephen Tooth, Prifysgol Aberystwyth.

05 Mawrth 2025

Roedd Tŵr Gweno, ar yr arfordir rhwng Aberystwyth a Llanrhystud, yn dirnod lleol ac yn atyniad poblogaidd i dwristiaid yn oes Fictoria. Mae ei ddiflaniad dros ganrif yn ôl yn dystiolaeth bod ein harfordir yn newid yn gyson ond bu dyddiad ei golli wedi bod yn ddirgelwch tan nawr, fel yr eglurir yn yr erthygl hon i nodi Wythnos Geomorffoleg Ryngwladol 2025 (3-8 Mawrth).

Ysgrifennwyd y darn gan yr Athro Stephen Tooth o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, a Courtney Goode, a raddiodd yn ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Newid Amgylcheddol, Effaith ac Addasiad.

Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, rydym wedi dod yn fwyfwy ymwybodol bod amgylchedd y byd yn newid. Mae’r blynyddoedd diweddaraf wedi bod ymhlith y cynhesaf a gofnodwyd erioed, mae lefelau’r môr yn parhau i godi, ac mae cynefinoedd a rhywogaethau’n cael eu colli ar gyfraddau cynyddol. 

Mae'n ymddangos bod cyfnodau o wres lletheol a sychder, fflachlifoedd trychinebus, a thanau gwyllt dinistriol yn digwydd yn amlach. 

Nid yw Ceredigion yn destun trychinebau mor eithafol.  Serch hynny, nid yw’n ddiogel rhag newid, yn enwedig ar hyd ei harfordir, y gellir ei ystyried o bosib i fod ar ‘reng flaen’ newidiadau amgylcheddol.

Geomorffoleg yw’r wyddoniaeth sy’n astudio tarddiad a datblygiad tirffurfiau –fel mynyddoedd, dyffrynnoedd, twyni tywod ac ogofâua sut mae’r tirffurfiau hynny’n cyfuno i ffurfio tirweddau.  Fel geomorffolegwyr lleol sy’n gweithio gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn y gymuned leol, mae gennym ddiddordeb arbennig yn y newid cyflym sydd wedi bod yn digwydd i dirffurfiau creigiog ar hyd arfordir Ceredigion dros y 150 mlynedd diwethaf. 

Mae deunyddiau archifol gweledol – gan gynnwys brasluniau daearegol, paentiadau, a ffotograffau cynnar – wedi darparu rhai llinellau tystiolaeth amhrisiadwy ac wedi helpu i ddatrys rhai dirgelion lleol.

Er enghraifft, mae ansicrwydd wedi bod ynghylch amseriad diflaniad hen stac arfordirol – o’r enw Tŵr Gweno – a oedd yn atyniad twristaidd Fictoraidd adnabyddus. 

Paentiad o Tŵr Gweno gan Alfred Worthington. Llun o gasgliadau Amgueddfa Ceredigion.

Ynghyd â phaentiad Alfred Worthington o ddeutu troad y ganrif ddiwethaf, sydd i’w weld yn Amgueddfa Ceredigion, mae nifer o ffotograffau o ddiwedd y 1800au a dechrau’r 1900au yn dangos y tirffurf hwn mewn gwahanol gyfnodau o erydiad, gan gynnwys y ddelwedd a ddangosir ochr yn ochr â’r erthygl hon (o gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: Albwm David John Saer).

Gallwn drefnu’r ffotograffau yn eu trefn ar sail maint a siâp newidiol Tŵr Gweno, a chymharu’r llinell amser gydag adroddiadau papur newydd lleol sy’n amlygu ei dranc graddol oherwydd grym y tonnau.  O ganlyniad, gallwn ddweud yn hyderus bod y tirffurf wedi’i golli mewn storm arfordirol ym 1907. Wrth gymharu’r nodweddion arfordirol sy’n weddill â ffotograffau mwy diweddar, gallwn hefyd ddod o hyd i leoliad blaenorol Tŵr Gweno.

Mae dulliau tebyg yn cael eu defnyddio i ailgreu datblygiad tirffurfiau arfordirol lleol eraill, gan gynnwys: Craig y Delyn, i'r de o'r Borth; Craig y Fulfran ac Allt Wen ger Aberystwyth, a Thwll Twrw ger hen safle Tŵr Gweno. Dros y degawdau diwethaf, mae maint a siâp Craig y Delyn a Thwll Twrw wedi bod yn newid yn aruthrol, ond mae tirffurfiau eraill wedi bod yn newid mewn ffyrdd mwy cynnil.

Mae angen gwneud mwy o ymchwil i sefydlu patrymau newid ar hyd yr arfordir deinamig hwn. Bob blwyddyn, caiff Wythnos Geomorffoleg Ryngwladol ei dathlu ddechrau mis Mawrth, gyda'r nod o hyrwyddo astudiaethau geomorffolegol a symbylu'r gymuned geomorffolegol. 

Fel rhan o’n cyfraniad, hoffem apelio ar unrhyw un sydd â brasluniau, paentiadau neu ffotograffau o’r arfordir lleol i gysylltu â ni.  Y mwyaf defnyddiol yw delweddau o dirffurfiau arfordirol penodol sy’n o leaf ddeng mlwydd oed, yn enwedig os yw’r lluniau wedi eu cymryd o leoliadau y gellir eu hadnabod ac ailymweld â nhw’n hwylus. Mae defnyddio deunyddiau archifol gweledol i ail-greu newidiadau i dirffurfiau arfordirol yn darparu persbectif hanesyddol gwerthfawr a all ategu monitro newid yn y tymor byr gan ddefnyddio technoleg uwch, megis arolygon drôn.

Rydym yn ddiolchgar i Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru: Casgliad Albwm David John Saer, ac i Amgueddfa Ceredigion am ganiatáu inni ddefnyddio delweddau o Tŵr Gweno o’u casgliadau. Gall unrhyw ddarllenwyr a hoffai rannu eu lluniau o’n harfordir newidiol eu hanfon at Yr Athro Stephen Tooth: set@aber.ac.uk.