Ymchwilio i wytnwch yng nghymunedau Cymru - arolwg
Gŵyl Fwyd Y Fenni
13 Ionawr 2025
Mae academyddion Prifysgol Aberystwyth yn arolygu cynghorau cymuned a thref i bwyso a mesur pa mor wydn ac addasol yw cymunedau Cymru.
Bydd yr astudiaeth yn ystyried dylanwadau allweddol ym mywydau pobl o ddydd i ddydd ac ar adegau o argyfyngau - megis seilwaith, democratiaeth, gwasanaethau cymunedol, adeiladau lleol a chefnogaeth i ddiwylliant a'r Gymraeg.
Cynhelir yr ymchwil gan Bartneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig (LPIP), a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth ac a gyllidir gan UKRI.
Eglurodd Dr Lucy Baker o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac ymchwilydd LPIP:
"Ar hyn o bryd mae cymunedau'n wynebu sawl her fawr, gyda thoriadau mewn gwariant cyhoeddus, mwy o gyfrifoldeb ar lefel gymunedol o ganlyniad i drosglwyddiadau mewn asedau yn dod â mwy o gyfrifoldebau i'r raddfa ddaearyddol leiaf, a'r cyhoedd yn cael trafferth ymdopi â'r argyfwng costau byw.
"Gobeithiwn y bydd yr arolwg yn taflu goleuni ar rai o'r heriau hyn, i helpu rhanddeiliaid eraill megis awdurdodau, llywodraeth, sefydliadau'r trydydd sector, busnesau a grwpiau cymunedol i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Rydym hefyd yn gobeithio gweld rhai enghreifftiau ysbrydoledig o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein cymunedau i feithrin dyfodol gwydn."
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ymuno ag Un Llais Cymru i ddosbarthu'r arolwg i gynghorau cymuned a thref ledled Cymru.
Eglura Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru:
"Mae cynghorau cymuned a thref yn hynod bwysig o ran bod yn bwynt cyswllt cyntaf a etholwyd yn ddemocrataidd a chwarae rhan fawr ym mywydau beunyddiol pobl drwy wneud pethau megis rheoli asedau cymunedol, darparu cyswllt ag awdurdodau lleol a threfnu digwyddiadau allweddol.
"Mae angen i ni ehangu ein gwybodaeth am weithgareddau a heriau amrywiol cynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Bydd yr arolwg hwn yn rhoi cyfle i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am wytnwch ac asedau yn ein cymunedau."
Er y bydd yr ymchwil yn casglu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am wasanaethau megis mynediad at iechyd ac addysg, bydd yr elfen arolwg yn canolbwyntio ar ble mae bylchau mewn data mewn meysydd allweddol yn ymwneud â gwytnwch a lles cymunedol.
Mae hyn yn cynnwys sut mae cynghorau'n meddwl am addasiadau o ran newid yn yr hinsawdd, pa weithgareddau a gynhelir mewn adeiladau cymunedol, sut mae bywyd cymunedol wedi newid ers pandemig COVID19, a mynediad at fwyd lleol a busnesau bach yn y cymunedau.
Mae clercod cynghorau cymuned a thref ledled Cymru wedi cael dolenni i'r arolwg dwyieithog ar-lein, a ddylid ei gwblhau gan aelodau, staff neu wirfoddolwyr cynghorau cymuned a thref, neu gynghorwyr. Mae'r arolwg ar agor tan ddiwedd mis Ionawr 2025. Gellir anfon unrhyw gwestiynau am yr arolwg at: Lucy Baker (lub59@aber.ac.uk), neu Ellen Hjort (elh103@aber.ac.uk), Ymchwilwyr LPIP Cymru Wledig.
Mae LPIP Cymru Wledig yn cynnwys sawl prifysgol, sefydliadau trydydd sector, cymunedau a llunwyr polisi yng Nghymru. Mae'n gweithio i ddatblygu economi wledig gynhwysol, gynaliadwy drwy roi'r dystiolaeth sydd ei hangen ar lywodraeth leol, busnesau a chymunedau i wneud penderfyniadau sy'n meithrin ffyniant ac yn lleihau anghydraddoldeb.