Mwy o ysgoloriaethau PhD
“Ni allaf ddiolch i Eleanor a David ddigon am eu gwaddol i Brifysgol Aberystwyth. Heb eu haelioni ni fyddai modd imi ariannu fy ymchwil. Er bod llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol Addysg Uwch ac ymchwil, mae cefnogaeth pobl fel Eleanor a David yn cael effaith sylweddol wrth sicrhau bod myfyrwyr fel fi yn cael cyfle i ddilyn ein dyheadau.”
Mae Keziah yn ail flwyddyn ei doethuriaeth yn yr adran Hanes.
Ar ôl astudio ar gyfer BA ac MA yn Aberystwyth, roedd Keziah yn gwybod ei bod hi am barhau ymhellach â’i gwaith ymchwil academaidd a dechrau ar ddoethuriaeth.
Ond, oherwydd y gystadleuaeth frwd, a’r opsiynau i’w hariannu yn brin, dechreuodd Keziah, yn ei geiriau ei hun, “roi’r gorau i freuddwydio am ddoethuriaeth.”
Daeth Keziah i ddiwedd ei MA, yn ansicr ynghylch ei dewisiadau gyrfa yn y dyfodol, gan obeithio y byddai arian ar gael iddi barhau â’i doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Ar yr unfed awr ar ddeg, diolch i Rodd Eleanor a David James, cafodd Keziah ysgoloriaeth PhD yn y Brifysgol.
Drwy'r rhodd honno, mae Eleanor a David James yn darparu ysgoloriaethau PhD i'r brifysgol i alluogi myfyrwyr addawol, ymroddedig i gael parhau â'u hastudiaethau doethurol uwchraddedig.
Mae doethuriaeth Keziah yn ymchwilio i hanes cymdeithasol Ceredigion drwy ddogfennau cyfreithiol o’r unfed a’r ail ganrif ar bymtheg, er mwyn creu darlun cyd-destunol ehangach o Geredigion drwy ei dogfennau cyfreithiol troseddol a domestig o’r Sesiwn Fawr.
Dadansoddwyd ac ymchwiliwyd i siroedd eraill yng Nghymru, ond nid Ceredigion: “Gobeithiaf ychwanegu at y raddfa ehangach o ymchwil academaidd sydd wedi ei hesgeuluso ar y cyfan ac sydd heb ei digideiddio ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod”, eglura Keziah.
“Byddai’n wych cyrraedd man lle gellir mapio’r canfyddiadau hyn ar draws Cymru er mwyn sylwi ar dueddiadau a phatrymau ynglŷn â’r ffordd yr oeddem yn byw, a sut rydym yn byw heddiw, yn ein cymunedau a’n cymdeithasau”.
Yn y pen draw, bydd ymchwil Keziah'n fwy hygyrch i fyfyrwyr a chymunedau sy’n ymddiddori yn nhreftadaeth Cymru. Mae Keziah yn cydgysylltu â Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn sicrhau bod ei gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio’n ehangach.
Mae Keziah yn ymwybodol iawn fod hyn oll yn bosib oherwydd haelioni Eleanor a David James:
“Ni allaf ddiolch i Eleanor a David ddigon am eu gwaddol i Brifysgol Aberystwyth. Heb eu haelioni ni fyddai modd imi ariannu fy ymchwil.
Er bod llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol Addysg Uwch ac ymchwil, mae cefnogaeth pobl fel Eleanor a David yn cael effaith sylweddol wrth sicrhau bod myfyrwyr fel fi yn cael cyfle i ddilyn ein dyheadau.”
Mae Keziah yn gobeithio parhau â’i gyrfa yn y byd academaidd, drwy addysgu ac ymchwilio ar ôl iddi orffen ei doethuriaeth.