Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
"Gadewais wedi fy ysbrydoli ac yn gyffrous i ddechrau fy ngyrfa fy hun."
Myfyrwraig ar ei blwyddyn gyntaf yn astudio Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Elen. Mae hwn yn gynllun gradd sydd bellach yn gymhwyster safonol yng ngolwg darpar gyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr dwyieithog cymwys.
Cynorthwyodd Cronfa Aber i gyllido digwyddiad i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n ystyried dechrau ar yrfa newyddiadurol, gyda un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Bethan Williams, sy’n Rheolwr Hyfforddi a Datblygu i Newyddion y BBC.
Cymerodd Elen ran yn y digwyddiad: “Rhoddodd Bethan adroddiad manwl i ni ar ei llwybr gyrfa a phwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i gymryd pob cyfle ac i wneud y gorau ohonynt. Gadewais wedi fy ysbrydoli ac yn gyffrous i ddechrau fy ngyrfa fy hun.”
“Roedd yn wych i gael cipolwg ar newyddiaduraeth o’r radd flaenaf. Hyd yn oed os nad oedd gennych ddiddordeb penodol yn y maes yma, roedd yr awgrymiadau a gawsom am y gweithle’n gyffredinol yn amhrisiadwy.”
Beth ddysgodd Elen o’r profiad? “Rwyf wedi dysgu i beidio gosod unrhyw rwystrau i mi fy hun, os ydw i'n gweithio'n ddigon caled, yna gallaf gyflawni unrhyw beth.”