Gwirfoddolwch yn Aber

Beth yw e-Fentora?

Caiff e-Fentora Aberystwyth ei gyllido gan Gronfa Aber ac mae’n llwyfan ar-lein i gyn-fyfyrwyr Aber gynnig gwasanaeth mentora am yrfaoedd a chyfarwyddyd i fyfyrwyr presennol a graddedigion newydd.

Caiff myfyrwyr eu paru â mentoriaid o blith y cyn-fyfyrwyr sydd â phrofiad a gwybodaeth am ddiwydiant/galwedigaeth a fydd yn cyd-fynd ag uchelgais gyrfaol y myfyriwr.

Faint o fy amser fydd angen i mi ei roi i wirfoddoli fel e-Fentor?

Gall amrywio o e-bost unigol i ryngweithiadau hirach wrth i fyfyrwyr a graddedigion newydd gynllunio a llywio eu dewisiadau gyrfaol. Gall mentoriaid gynnig: 

   • cyngor drwy e-bost
   • adborth ar CV a ffurflenni cais
   • dirnadaeth werthfawr o yrfa benodol
   • ymweliad â man gwaith y mentor
   • cyfleoedd ar gyfer cysgodi/profiad gwaith

Sut mae’n gweithio?

  1. Cofrestrwch i ddefnyddio llwyfan ar-lein eFentora Aberystwyth.
  2. Crëwch broffil byr i chi’ch hun.‌
  3. Chwiliwch am fentoriaid sy’n cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch.
  4. Cysylltwch â mentor gan ddefnyddio eFentora Aberystwyth.
  5. Gweler Ein Canllaw i gael rhagor o fanylion.

Gallwch gofrestru i gynnig neu dderbyn gwasanaeth mentora yma.