Ymchwil
Ymchwil sy'n gyrru Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac mae ein staff yn arbenigo ar iaith a llên Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill: Iwerddon, yr Alban, Ynys Manaw a Llydaw. Mae ein hymchwil ar agweddau o Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn rhychwantu’r canrifoedd, ac yn cwmpasu’r meysydd arbenigol canlynol:
- ysgolheictod testunol a sgiliau golygyddol; diwylliant llawysgrifol a llenyddol;
- cyfieithu ac addasu llenyddol (damcaniaeth ac ymarfer, yn cynnwys y Canol Oesoedd);
- ieithyddiaeth ac ieitheg;
- damcaniaeth feirniadol, yn arbennig ffeministiaeth ac astudiaethau rhywedd, eco-feirniadaeth, damcaniaeth ymateb y darllenydd;
- hanes a beirniadaeth lenyddol;
- ysgrifennu creadigol;
- bywgraffiad ac ysgrifennu am fywyd;
- ysgrifennu a diwylliant llenyddol merched;
- llenyddiaeth y tirwedd a’r amgylchedd;
- hunaniaeth ranbarthol a chenedlaethol mewn llenyddiaeth a diwylliant modern cynnar a chyfoes; llenyddiaeth ‘pedair cenedl’ ac ‘archipelegaidd’;
- llenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg gymharol;
- enwau lleoedd ac enwau personol Celtaidd hynafol yn Ewrop ac yn Asia Leiaf;
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ddiweddaraf cadwodd yr Adran ei henw da am gyhoeddiadau ymchwil o safon flaengar drwy’r byd, a rhagoriaeth rhyngwladol. Barnwyd bod 25% o gyhoeddiadau’r adran yn flaengar drwy’r byd (4*) ac ystyriwyd bod 30% arall yn ‘rhyngwladol ragorol’ (3*).
Mae’r cylchgronau pwnc-ddiffiniol canlynol yn cael eu golygu gan aelodau o’r staff:
- Dwned (Dr Bleddyn Owen Huws)
- The Journal of Celtic Linguistics (Dr Simon Rodway)
Mae proffiliau'r staff yn cynnwys gwybodaeth am ddiddordebau ymchwil unigol y staff.
Drwy’r blynyddoedd mae’r Adran wedi derbyn grantiau allanol ar gyfer prosiectau cydweithredol. Yn eu plith mae:
- Llenyddiaeth Cymru ac Ewrop
- ‘Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 1400–1800’ (Ymddiriedolaeth Leverhulme)
- ‘Ptolemy: Towards a Linguistic Atlas of the Earliest Celtic Place-Names of Europe’
- ‘Gohebiaeth Carneddog a Rhai o’i Gyfoedion’
- ‘Gaulish Morphology with Particular Reference to Areas South and East of the Danube.’
Mae gennym fantais sylweddol arall. Mae Aberystwyth yn gartref i amryw o sefydliadau allweddol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un bump o llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Gyfunol.
Dolenni defnyddiol:
Centre for Cultures of Place
Porth Ymchwil Aberystwyth
‘Barddoniaeth Menywod yn Iwerddon, yr Alban a Chymru 1400–1800’