Cyflogadwyedd
   
                                                                                                             
                                                                                                             
    
    
    
 
    
    O gwrs gradd i'r gweithle!
Mae gradd yn y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Aberystwyth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr yn y sectorau preifat a chyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.
Mae cyflogadwyedd wedi ei ymgorffori yn y cwricwlwm a gynigir i bob un o'n myfyrwyr.
Nod ein modiwlau amrywiol yw meithrin eich medusrwydd ieithyddol ynghyd â sgiliau:
- beirniadol
 - dadansoddol
 - creadigol.
 
Bydd ein modiwlau ni yn:
- atgyfnerthu eich Cymraeg neu un arall o'r ieithoedd Celtaidd, er enghraifft eich sgiliau llafar Cymraeg a'ch sgiliau ysgrifenedig Cymraeg
 - eich paratoi ar gyfer byd gwaith cystadleuol
 - gwella eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol
 - gwella eich gallu i gydweithio â phobl eraill.
 
Yn sgil Mesur y Gymraeg 2011 a tharged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog o’r safon uchaf.
Gallwch weithio mewn ystod eang o feysydd:
- cyfryngau cyhoeddus / y radio a’r teledu
 - addysg
 - cyhoeddi
 - ysgrifennu creadigol
 - gwleidyddiaeth
 - cyfieithu
 - polisi iaith
 - cynllunio ieithyddol
 - gwasanaeth sifil
 - marchnata
 - gwaith cymdeithasol
 - ymchwil
 - gweinyddiaeth gyhoeddus, ee y gwasanaeth cyfiawnder a’r heddlu; y gwasanaeth iechyd.
 
Mae record yr Adran o ran cyflogadwyedd ein graddedigion yn dweud y cyfan. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf, roedd 100% o’n graddedigion mewn swydd neu addysg bellach chwe mis ar ôl iddynt raddio (HESA 2018). Gweler Ffigurau cyflogadwyedd graddedigion Prifysgol Aberystwyth.
