Dr Sara Elin Roberts
Proffil
Mae Dr Sara Elin Roberts yn arbenigo yng nghyfraith, llenyddiaeth a diwylliant Cymru a’r Mers o’r ddeuddegfed hyd y bymthegfed ganrif. Mae ganddi ddiddordeb penodol mewn materion yn ymwneud â chenedl, rheolaeth, grym a hunaniaeth yng Nghymru a’r Mers wedi’r Goncwest, ac y mae hefyd yn arbenigwr cydnabyddedig ar y diwylliant llawysgrifol sydd y tu ôl i ledaeniad rhyfeddol y testunau Cyfraith Cymraeg rhwng y drydedd ganrif a’r ddeg a’r bymthegfed ganrif. Mae hi wedi cyhoeddi yn helaeth ar y gyfraith a’r gymdeithas ganoloesol yng Nghymru a’r Mers, gan gynnwys ei chyfrol The Legal Triads of Medieval Wales (Caerdydd, 2007; gol. addas. 2011) a enillodd wobrau. Ei chyfrol ddiweddaraf yw The Growth of Law in Medieval Wales c.1100–c.1500 (Boydell, 2022) a enillodd Wobr Hywel Dda yn 2023. Mae ganddi hefyd arbenigedd sylweddol mewn barddoniaeth Gymraeg ganoloesol ac yr oedd yn un o olygyddion y golygiad newydd o waith Dafydd ap Gwilym.