Prof Marged Haycock
BA (Caer-grawnt), MA, PhD (Cymru)
Athro Emeritws
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Manylion Cyswllt
- Ebost: mah@aber.ac.uk
- Swyddfa: D34, Adeilad Hugh Owen
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Mae'r Athro Marged Haycock yn feirniad llenyddol sy'n arbenigo ym marddoniaeth y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, yn enwedig agweddau amrywiol ar waith y beirdd cynnar. Gan ddilyn y trywydd hwn, cyhoeddodd Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (1994), a enillodd wobr Syr Ellis Griffith, a chyfrol arloesol ar y Taliesin chwedlonol, sef Legendary Poems from the Book of Taliesin (2007). Newydd ei chyhoeddi y mae cymar gyfrol ar y canu darogan, sef Prophecies from the Book of Taliesin (2013). Mae ei gwaith ymchwil yn y meysydd hyn yn cyfoethogi tri modiwl Rhan II, sef y Canu Arwrol Cynnar, Y Cynfeirdd Diweddar, a Cherddi'r Gogynfeirdd, ac mae diddordeb ymchwil arall yn cael ei adlewyrchu yn ei modiwl poblogaidd, Merched a Llên hyd 1500, ac yn y llyfr sydd ar y gweill i gyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth hefyd ar arwyddocâd a symboliaeth nwyddau traul fel bwyd, diod, a thecstiliau yn yr Oesoedd Canol; ar lên a llenorion y Gororau; ac ar dderbyniad llenyddiaeth ganoloesol - er enghraifft yn ei chyfraniad am hynt y Dywysoges Heledd, yng nghyfrol deyrnged Gwyn Thomas, Gweledigaethau, gol.
Ymchwil
Yn 2011, bu'n traddodi cyfres o ddarlithoedd yn y Centre for Medieval and Renaissance Studies, University of California, Los Angeles, fel 'Distinguished Visiting Scholar', ac yn 2012-13 bu'n aelod o dîm rhyngwladol yn gweithio yn Oslo dan nawdd yr Academi Norwyeg (Senter for grunnforskning, ved Det Norske Videnskaps-Akademi): bydd peth o ffrwyth y gwaith hwn ar ryfela yng ngwledydd Gogledd Ewrop yn cael ei gyhoeddi yn y gyfrol Warrior and King, gol. Jan Erik Rekdal a Charles Doherty yn haf 2014. Mae hanes ysgolheictod yn edefyn arall a fydd sy'n cael ei ddatblygu - yng ngoleuni ei phrofiad fel ysgolhaig testunol - mewn cofiant i Syr Ifor Williams. Bu'r Athro Haycock yn aelod o Peer Review College yr AHRC, a hi sy'n cydlynu gweithgareddau ein myfyrwyr uwchraddedig ers ugain mlynedd a mwy yn ogystal â chyfarwyddo nifer fawr o ymchwilwyr.