Mr Eurig Salisbury

BA, MPhil (Cymru)

Mr Eurig Salisbury

Darlithydd Ysgrifennu Creadigol

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Deuthum i Aberystwyth fel myfyriwr yn 2001, gan ennill gradd BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004. Arhosais yn Adran y Gymraeg hyd 2006 i ymchwilio ar gyfer gradd MPhil ('Canu Cynnar Guto'r Glyn').

Yn 2006, enillais gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, a chefais hefyd fy mhenodi'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Treuliais naw mlynedd hapus iawn yno, gan gyfrannu at dri phrosiect arloesol ym maes barddoniaeth yr Oesoedd Canol (ymhellach, gw. yr adran ar 'Ymchwil'). Rwy'n awdur cyhoeddedig (Llyfr Glas Eurig, 2008; Sgrwtsh!, 2011).

Cefais fy mhenodi'n Fardd Plant Cymru 2011-13, sef y tro cyntaf i fardd ymgymryd â'r swydd am gyfnod o ddwy flynedd. Yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o wahanol weithgareddau barddonol, o weithdai mewn ysgolion a gwyliau llenyddol i gystadlaethau stomp a slam, a hynny ar hyd a lled y wlad, bûm yn tiwtora llenorion ifanc ar fwy nag un achlysur yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac roeddwn yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2014.

Rwy'n Olygydd Cymraeg i gylchgrawn Poetry Wales. Rwyf wedi cydweithio â Gŵyl y Gelli, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar nifer o brosiectau llenyddol ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn India, Bangladesh, Colombia, Cenia a nifer fawr o wledydd Ewropeaidd. Roeddwn yn un o Gymrodyr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2012-13. Mae fy ngwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, yn cynnwys Bangla, Malayalam ac Eidaleg.

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator
Tutor
Lecturer
Moderator
Assistant
Grader

Ar gyfer y cynllun gradd BA Cymraeg, rwy'n dysgu rhannau o fodiwlau Rhan I ar feirdd a llenorion o 1900 hyd heddiw, ynghyd â modiwlau Rhan II Ysgrifennu Creadigol.

Rwy'n dysgu nifer o fodiwlau yr MA Ysgrifennu Creadigol: 'Ysgrifennu Rhyddiaith: Ffurf', 'Ysgrifennu Rhyddiaith: Genre', 'Ysgrifennu Barddoniaeth: Moddau Mynegiant', 'Ysgrifennu Barddoniaeth: Ffurfiau'r Canu Caeth a Rhydd'.

Ymchwil

Ar hyn o bryd, rwy'n ymchwilydd ar brosiect Cwlt y Seintiau yng Nghymru, a leolir yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Cymru, Aberystwyth, ac a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Rwy'n gyfrifol am lunio golygiadau o gerddi Cymraeg i seintiau gan feirdd a oedd yn canu rhwng c.1400 a c.1700. Bydd golygiad llawn o'r farddoniaeth ac o fucheddau Cymraeg yn cael ei lansio ar lein yn 2017.

Cyn ymuno â'r Adran Gymraeg, roeddwn yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau, lle bûm yn aelod o ddau brosiect arloesol o ran golygu barddoniaeth yr Oesoedd Canol. Fel rhan o Gyfres Beirdd yr Uchelwyr, bûm yn cyd-olygu gyda Barry J. Lewis farddoniaeth Gruffudd Gryg, un o gyfoeswyr Dafydd ap Gwilym ac un o feirdd mwyaf blaenllaw cyfnod cynnar y cywydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Gwaith Gruffudd Gryg, 2011). ‌

Fel rhan o Brosiect Guto'r Glyn, roeddwn yn un o dîm o ymchwilwyr a fu'n golygu holl waith y bardd hwnnw, y mwyaf o feirdd y bymthegfed ganrif (roedd fy ngwaith ar y prosiect yn adeiladu ar brofiad gwerthfawr a gefais wrth olygu gwaith cynnar Guto ar gyfer gradd MPhil yn Adran y Gymraeg yn 2004-6). Lansiwyd golygiad cynhwysfawr o gerddi Guto ar lein yn 2013.

O dro i dro, daw cyfle i gyfuno'r gorffennol a'r presennol mewn ffyrdd cyffrous ac annisgwyl, fel ar gyfer cyfrol a olygais yn ddiweddar a gydblethai gyflwyniadau i rai o lawysgrifau cynharaf yr iaith ag ymatebion i gynnwys y llawysgrifau hynny gan feirdd diweddar: Buarth Beirdd: Ymatebion Beirdd Cyfoes i Lawysgrifau Cynharaf yr Iaith Gymraeg (2014).

Ac edrych i'r dyfodol, byddaf yn datblygu fy niddordebau yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol ac mewn llenyddiaeth ddiweddar, gyda golwg benodol ar gerdd dafod, genre ac ecofeirniadaeth.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 14.00-17.00

Cyhoeddiadau

Salisbury, E 2022, Carolau Haf Huw Morys a'i Gyfoeswyr. Hen Lyfrau Bach, Dalen Newydd.
Salisbury, E 2022, Cerdd gan Huw Morys i ofyn crwth: cipolwg ar y canu caeth newydd. in BO Huws & TR Chapman (eds), Cyfrol Deyrnged Gruffydd Aled Williams. Atebol.
Salisbury, E 2020, 'Fi a'm holl gymdeithion': Golwg newydd ar farddoniaeth gaeth y Cyfnod Modern Cynnar. in A Karadog & E Salisbury (eds), Y Gynghanedd Heddiw. Barddas, pp. 46-61.
Salisbury, E 2020, Llyfr Gwyrdd Ystwyth. Barddas.
Chattarji, S & Salisbury, E 2019, The Bhyabachyaka and Other Wild Poems. Scholastic India.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil