Llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy

Bu 2008 yn flwyddyn nodedig i'r Adran o ran llwyddiannau yn Eisteddfod yr Urdd.  Dewi Huw Owen, myfyriwr PhD yn yr Adran, enillodd y Goron  gan dderbyn canmoliaeth uchel am dri darn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y testun “Gwerth”.