Cyfweliadau Llyfr y Flwyddyn 2008
Bu Dr Robin Chapman, ei hun yn gyn-enillydd Cystadleuaeth Llyfr y Glwyddyn, yn cadeirio trafodaethau panel gydag awduron rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yng Ngŵyl y Geli ym mis Mai. Yn ogystal roedd aelod arall o staff yr Adran, Dr Huw Meirion Edwards, ar y panel o feirniaid a ddyfarnodd gwobr Llyfr Cymraeg y Flwyddyn i Gareth Miles am ei nofel Y Proffwyd a’i Ddwy Jesebel.