Cydnabod Rhagoriaeth

Cyhoeddwyd bod Dr Robin Chapman i dderbyn Rhodd Goffa Mrs Foster Watson (2008) am ei gyfrol 'Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis'. Dyfernir y Rhodd bob pum mlynedd yn gydnabyddiaeth o ragoriaeth y gwaith gorau sy'n dod o blith gwaith gwreiddiol aelodau o staff dysgu' r Brifysgol. Mae Dr Chapman yn rhannu'r wobr ar y cyd a'r Athro Ken Booth (am ei 'Theory of World Security').