Cryfhau'r Cysylltiad a Harvard (Hydref 2008)
Ym mis Hydref ymwelodd dau o aelodau'r staff, sef yr Athro Gruffydd Aled Williams (a ymddeolodd ym mis Awst) a Dr Bleddyn Owen Huws a Phrifysgol Harvard yn Unol Daleithiau America. Fe'u gwahoddwyd, ynghyd a dau o fyfyrwyr ymchwil yr Adran, Adrian Morgan a Daniel Ranbom, i draddodi darlithoedd yng Ngholociwm Blynyddol Adran Geltaidd Prifysgol Harvard.Yr oedd cynrychiolaeth gref o'r Adran yn y gynhadledd eleni, gan fod un o'n cyn-fyfyrwyr MA, Erin Boon, bellach yn fyfyrwraig PhD yn Harvard. Bydd hi ar bwyllgor trefnu'r gynhadledd y flwyddyn nesaf, a gwahoddwyd yr Athro Patrick Sims-Williams i draddodi prif ddarlith y gynhadledd yn Hydref 2009, sef Darlith Goffa John V. Kelleher.
Dywed Dr Bleddyn Huws: 'Cawsom gyfle i gryfhau'r cysylltiad cyfeillgar sydd rhyngom a'n cydweithwyr yn Adran Geltaidd Harvard, a braf oedd gweld ein myfyrwyr ni yn cael y cyfle i rannu'r un llwyfan a myfyrwyr Prifysgol Harvard a chael cyfle hefyd i gymharu profiadau. Fe gadarnhawyd yn sgil ein hymweliad gymaint o barch sydd i Adran Gymraeg Aberystwyth yn un o brifysgolion mawr y byd.'
Dyma deitlau'r darlithoedd:
Gruffydd
Aled Williams, 'Towards a Welsh Renaissance Ars Poetica'.
Bleddyn Owen Huws, 'Dafydd ap Gwilym's 'Trouble at an Inn'
and the Medieval Sermon'.
Adrian Morgan, 'The Beginnings of Welsh Witchcraft: Robert Holland and the
Dialogue of Tudur and Gronw'.
Daniel Ranbom, 'The Giants who Dwarf 'Culhwch ac Olwen''.
Traddododd yr Athro Gruffydd Aled Williams ddarlith yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard fis Mawrth diwethaf. Teitl y ddarlith oedd ‘Grief Transmuted: Lewys Glyn Cothi’s Lament for His Son’.