Amdanom ni
Yma yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth, rydym yn gymuned agos ac eangfrydig.
Mae ein gwaith ymchwil yn gwthio ffiniau'r maes ac mae ein myfyrwyr wedi dyfarnu 100% inni am fodlonrwydd cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2021.
Croeso
Mae croeso cynnes iawn yn yr Adran i bawb sy’n dymuno astudio’r Gymraeg neu’r ieithoedd Celtaidd eraill, boed yn ddechreuwyr neu’n siaradwyr hyderus a rhugl. Byddwch yn sicr o’n cefnogaeth frwd.
Lleoliad
O’n safle ar gampws y Brifysgol, gallwn weld tref Aberystwyth yn ymestyn i lawr am y môr, ac mae’r olygfa odidog yn swyno myfyrwyr o bob rhan o Gymru a’r byd.
Mae’r ardal hon yn un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn gyforiog o hanes. Mae’n cynnig amgylchedd lle mae ddoe, heddiw ac yfory’n cyfarfod. Y cyfuniad hwn sy’n creu’r cefndir a’r ddeinameg arbennig ar gyfer ein bywyd academaidd a chymdeithasol ac sy’n gwneud yr Adran, ac Aberystwyth, yn fan delfrydol i astudio rhai o ieithoedd hynaf Ewrop.
Ymchwil ac Addysgu
Gyda’n cyrsiau amrywiol, rydym yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer ystod ehangach nag erioed o swyddi ac yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rydym hefyd yn arloesi mewn gwaith ymchwil sy’n arwain y maes yn rhyngwladol ac sy’n cwmpasu’r canrifoedd.
Er mwyn dysgu rhagor am ein Hadran, ein hymchwil a’n cynlluniau gradd, dewch i ymweld â ni ar un o’n Diwrnodau Agored. Cewch brofi drosoch eich hunain pam fod Prifysgol Aberystwyth yn lle mor arbennig i astudio!
Dr Rhianedd Jewell
Pennaeth Adran
Ein hanes
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r hynaf o’i bath yn y byd. Mae wedi bod yn addysgu ac yn ysbrydoli cenedlaethau o fyfyrwyr er 1875.
Dyma’r Adran a fu’n gartref i ddarlithwyr ysgolheigaidd a llengar fel T. Gwynn Jones, T. H. Parry Williams, Gwenallt, Marged Haycock a Mihangel Morgan, a dyma’r Adran sydd heddiw’n arwain y sector â chyrsiau arloesol ym meysydd Iaith a Llên, Ysgrifennu Creadigol, Cymraeg Proffesiynol, Astudiaethau Cyfieithu ac Astudiaethau Celtaidd.
Y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd
Adran unigryw
O’r cychwyn cyntaf, mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Aberystwyth wedi bod yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr a staff sy’n rhannu’r nod o hyrwyddo mwynhad a dealltwriaeth ehangach o’r Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, ynghyd â’u hanes, eu llenyddiaeth a’u lle yn y byd modern, rhyngwladol.
Arlwy yr Adran hon yw’r ehangaf yn y byd o ran yr ieithoedd Celtaidd. Gall myfyrwyr ddewis llwybrau yn y Gymraeg a’r Wyddeleg wedi eu teilwra ar gyfer pob lefel cymhwysedd, ac mae modd astudio Gaeleg yr Alban a Llydaweg hefyd a chael cyflwyniad i Fanaweg a Chernyweg ac i hen ieithoedd Celtaidd y Cyfandir.
Cysylltiadau â phrifysgolion a chyrff eraill
Rydym yn cydweithio ag ysgolheigion mewn prifysgolion yn Iwerddon, yr Alban, Llydaw, Lloegr, yr Eidal, Denmarc, Unol Daleithiau’r Amerig, Rwsia, heb sôn am yng Nghymru ac â llenorion ar bob cyfandir.
Ein Cymydog: Y Llyfrgell Genedlaethol
O fewn tafliad carreg i’r Adran, mae’r Llyfrgell Genedlaethol. Dyma drysorfa werthfawr i bawb sy’n ymddiddori mewn iaith a llenyddiaeth. Mae’n gartref i lawysgrifau cwbl arbennig fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch, llawysgrifau ac archifau pwysig o ran y Wyddeleg a’r Gernyweg, yn ogystal â’r Archif Sgrin a Sain.
At hynny, mae’r Adran yn rhan o gymuned greadigol eang yn sgil ei chysylltiadau cryf â chyhoeddwyr, cwmnïau cyfieithu, sefydliadau llenyddol lleol a chenedlaethol fel Cyngor Llyfrau Cymru, Llywodraeth Cymru, Urdd Gobaith Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cydweithio creadigol yn ymestyn ledled y byd drwy Ewrop i Dde America ac i’r India.
At hyn, mae cyfleoedd cyffrous ar gael drwy gyfrwng cynlluniau cyfnewid â phrifysgolion yn Ewrop. Gellir hefyd drefnu ymweliadau â phrifysgolion mewn rhannau eraill o’r byd.
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - Ble alla i fynd?
Ac mae gyda ni gysylltiadau â chyrff eraill megis Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru, Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd.
Ein pobl ni
Mae holl staff academaidd yr Adran yn ysgolheigion, yn ymchwilwyr gweithredol ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd. Mae ein gwaith yn adnabyddus drwy Gymru gyfan a thu hwnt, boed yn waith sy’n archwilio tarddiad a datblygiad y Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, yn cyhoeddi barddoniaeth a llenyddiaeth, yn golygu, yn dehongli, yn dadansoddi ac yn cyfieithu.
Ymhlith y gwobrau a enillwyd am ein gwaith y mae:
- Gwobr Syr Ellis Griffith (Prifysgol Cymru)
- Medal Dillwyn yn y Dyniaethau a'r Celfyddydau Creadigol (Cymdeithas Ddysgedig Cymru)
- Gwobr Zeuss y Societas Celtologica Europaea
- Gwobr Joshua A. Fishman
- Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- Coron yr Eisteddfod Genedlaethol
- Llyfr y Flwyddyn
- Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol
- Gwobr Tir na n-Óg
- Ysgoloriaeth Burgen gan Academia Europaea
- Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis
- Gwobr Emyr Humphreys / PEN Cymru.
Mae gan ein staff gysylltiadau â gweisg ac â chyrff a mudiadau creadigol ar hyd a lled y wlad a thramor. Drwy glicio ar enwau’r staff, isod, cewch weld amrywiaeth ein diddordebau ymchwil, sy’n ymestyn yn ôl dros gyfnod o fil o flynyddoedd a mwy ac yn bwrw golwg ymlaen ar dechnoleg yfory. Yn ogystal â Chymru, mae ein hymchwil, boed yn waith unigol neu’n ymchwil cydweithredol, yn cyrraedd gwledydd mor amrywiol ag India, Rwsia, Iwerddon, Unol Daleithiau America, Chile, Denmarc, Llydaw, Ffrainc, yr Eidal a’r Almaen.
Canfod mwy am ymchwil ein staff
Cwrdd â'r staff
Cathryn Charnell-White
Beth oedd perthynas beirdd benywaidd Cymru cyn 1800 gyda’r traddodiad barddol proffesiynol yng Nghymru, a sut mae eu cerddi’n wahanol i gerddi eu cyfoeswyr gwrywaidd? A oedd beirdd benywaidd Cymru yn canu ar themâu tebyg i’w cymheiriaid benywaidd yn Iwerddon, yr Alban, Lloegr a gwledydd Ewrop? Mae cyfraniad Cathryn at ein rhaglen ddysgu yn cwmpasu awduron 1500–1800, barddoniaeth menywod, lleisiau LHDT+, ffuglen gyfoes gan fenywod, a llenyddiaeth hanesyddol am yr hin a’r hinsawdd. A hithau wedi golygu testunau llenyddol hanesyddol a chyfoes, mae Cathryn yn tynnu ar ei phrofiad o’r sector cyhoeddi i ddysgu modiwl galwedigaethol arloesol, ‘Y Golygydd a Diwydiant Cyhoeddi Cymru’.
Robin Chapman - Beirniadaeth lenyddol a theori lenyddol
Sut mae dweud rhywbeth cwbl wreiddiol am gerdd neu stori fer neu nofel sydd wedi cael ei thrafod gannoedd o weithiau o'r blaen? Gwaith beirniadaeth lenyddol yw canfod trywydd newydd o hyd. Un ffordd o wneud hynny yw edrych ar ymateb darllenwyr i destun dros amser. Pam mae gwaith awdur weithiau'n ffasiynol ac weithiau'n anffasiynol, er enghraifft? Neu beth am hoff eiriau awduron? Mae'n bosibl ystyried strwythur hefyd. Meddylier am y cymeriadau a'r lleoliadau o bennod i bennod mewn nofel. Oes patrwm? A hynny cyn dod at amgylchiadau hanesyddol. Beth oedd yn digwydd yng Nghymru, ym Mhrydain - a thrwy weddill y byd - adeg ysgrifennu neu gyhoeddi gwaith llenyddol arbennig? Mae'r cwestiynau'n ddi-ben-draw, a'r atebion hefyd.
Mererid Hopwood – Y Gymraeg ac Amlieithrwydd
Mae Mererid yn ymddiddori yn y Gymraeg fel cyfrwng creadigol ac wedi ei defnyddio i lunio gweithiau o bob math - o gerddi caeth i gartwnau plant, o libreto opera i drosiadau o weithiau llenyddol ar draws ystod o genres ac o nifer o ieithoedd. Mae gosod y Gymraeg, fel unrhyw iaith unigol, mewn cyd-destun amlieithog yn amlygu’r amrywiaethau rhwng iaith a chanfyddiad grwpiau gwahanol o siaradwyr, ac mae’r cyffordd ieithyddol yn y meddwl dwy ac amlieithog yn cynnig posibiliadau creadigol di-ben-draw. Ydych chi wedi oedi i ystyried pam fod yr haul yn gwenu yn Gymraeg ond nid yn Saesneg ... a beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘I have’ ac ‘mae gen i’ ...?
Bleddyn Owen Huws - Genres y cywydd
Er bod Beirdd yr Uchelwyr yn canu ar bynciau digon cyfarwydd a chonfensiynol, yn arbennig felly fawl a marwnad, yr oeddynt hefyd yn gallu canu rhai cerddi digon amrywiol a gwahanol. Ymhlith y rhai mwyaf diddorol y mae’r cerddi gofyn a diolch lle ceid disgrifiadau dychmygus a chrefftus o wrthrychau gwahanol a gyflwynid fel anrhegion. Er bod gwerth esthetaidd amlwg i gerddi o’r fath, y maent hefyd yn dweud llawer wrthym am gefndir cymdeithasol y canu. A oeddech chi’n gwybod fod gennym hefyd gerddi sy’n trafod pob math o anhwylderau corfforol? Y mae’r canu iacháu yn rhoi cyfle inni ystyried swyddogaeth ymarferol y gair llafar a chrefft y bardd, ac yn ein galluogi i ddysgu mwy am agweddau pobl at iechyd, salwch a henaint yn yr Oesoedd Canol Diweddar.
Rhianedd Jewell - Astudiaethau Cyfieithu
Ystyrir cyfieithu gan rai fel proses fecanyddol o drosi testun o un iaith i iaith arall. Ond oeddech chi'n gwybod bod cyfieithu yn dysgu llawer inni am iaith a syniadau awduron, am y testunau sy'n cael eu cyfieithu, am y gwahaniaethau rhwng ieithoedd a diwylliannau ac am hawliau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd ar draws Cymru a thu hwnt? Mae gwaith ymchwil Dr Rhianedd Jewell yn archwilio cyfieithiadau o ddramâu Ewropeaidd ac effaith cyfieithu ar y pryd ar achosion llys yng Nghymru.
Mandi Morse – Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol
Oherwydd y cefndir gwleidyddol, mae’r diwydiant cyfieithu yng Nghymru wedi gweld twf aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r llwybr at yrfa ym maes cyfieithu proffesiynol o fewn eich gafael. Yn ystod y cwrs uwchraddedig hwn darperir hyfforddiant manwl ar bob agwedd ar gyfieithu. Oeddech chi’n gwybod bod rhai geiriau’n anghyfieithadwy? Gan dynnu ar ei phrofiad proffesiynol, mae Mandi Morse yn archwilio hynny a sut orau i drosglwyddo ystyr o un iaith i’r llall.
Peadar O Muircheartaigh
Simon Rodway - Yn y Dechreuad ...
Wyddech chi nad ydym yn gwybod sut neu ba bryd y daeth yr ieithoedd Celtaidd i Brydain ac Iwerddon, na phryd y cyfansoddwyd Culhwch ac Olwen nac ym mha iaith y mae arysgrifau Gwlad y Pictiaid? Mae Dr Simon Rodway yn arbenigydd ar hanes yr ieithoedd Celtaidd, ac ar lenyddiaethau Cymraeg a Gwyddeleg yr Oesoedd Canol ac mae ei ymchwil yn ein harwain ar drywydd atebion i’r cwestiynau hyn, trywydd sy’n cynnig pob math o fannau aros ac arsyllu rhyfeddol.
Eurig Salisbury – Ysgrifennu Creadigol (drwy’r oesoedd)
Fel bardd, mae Eurig yn aml yn cael ceisiadau gan bobl ar hyd a lled Cymru a’r byd i lunio cerddi newydd ar gyfer pob math o ddigwyddiadau, o raglenni radio neu deledu i fedydd neu ben blwydd. Ond oeddech chi’n gwybod fod hynny’n hen draddodiad yng Nghymru? Yn ogystal â barddoni, mae Eurig hefyd yn ymchwilio i waith beirdd yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar – yn fwyaf diweddar, gwaith Huw Morys (1622–1709) – ac wrth ei fodd yn dod â’r cerddi cyhoeddus, defnyddiol ac ‘at iws’ hyn i olau dydd.
Ein cyrsiau
Addysgu ar sail ymchwil
Fel Adran, rydym yn darparu cyrsiau diddorol sy’n hogi sgiliau beirniadol ein myfyrwyr. Rydym yn ysbrydoli ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u doniau drwy gyfuniad o ddulliau dysgu traddodiadol a blaengar.
Canfod mwy am ein Dysgu ac Addysgu
Mae staff yr Adran yn addysgwyr profiadol ac yn ymchwilwyr blaengar, a’r ymchwil honno yw sail y cyrsiau rydym yn eu darparu. Diolch i ehangder diddordebau ymchwil ein staff - gweler Proffiliau Staff - rydym yn medru cynnig profiad dysgu cyflawn i’n myfyrwyr.
Amrywiaeth
P’un a ydych yn ymddiddori mewn iaith, mewn llenyddiaeth neu mewn diwylliant, cewch ddewis o blith amrywiaeth eang o bynciau a fydd yn tanio'ch diddordeb. Mae modiwlau gennym at ddant pawb:
- Datblygiad yr Ieithoedd Celtaidd
- Iaith a Llenyddiaeth yn y Wyddeleg a Gaeleg yr Alban
- Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol
- Llenyddiaeth Cyfnod y Dadeni
- Y Gymraeg yn y Gweithle Proffesiynol
- Astudiaethau Cyfieithu
- Barddoniaeth a Rhyddiaith Gyfoes
- Beirniadaeth Lenyddol
- Ysgrifennu Creadigol
- Ysgrifennu Menywod.
Graddau cyfun
Yn ogystal â graddau anrhydedd sengl, rydym hefyd yn cynnig graddau cyfun. Mae graddau cyfun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio yn ein Hadran ni ac un o adrannau eraill y Brifysgol.
Astudio a phrofiad gwaith
Mae nifer o’n cyrsiau’n rhoi profiad ymarferol o weithio drwy’r Gymraeg yn y byd gwaith: o’r swyddfa newyddiadurol i siambr y cyngor sir, ac o’r byd llenyddol i’r byd gwleidyddol. Gallwch gael blas ar waith Gwasanaethau’r Gymraeg, golygu, cyfieithu, gweinyddu, newyddiadura, darlledu a chyhoeddi. Mae gennym gysylltiadau â sefydliadau dwyieithog o bob math yn Aberystwyth a thu hwnt.
Profiad tramor
Os yw treulio amser yn astudio dramor yn apelio atoch chi, mynnwch gip ar y rhestr o lefydd y mae'n bosib ymweld â nhw fel myfyriwr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Cewch ddewis astudio mewn prifysgolion yn Iwerddon, yn Llydaw, ac mewn mannau eraill yn Ewrop gydag Adrannau Astudiaethau Celtaidd o safon megis Marburg yn yr Almaen ac Utrecht yn yr Iseldiroedd.
Mae hyn yn gyfle oes i chi astudio a chael profiad mewn gwlad arall, naill ai am flwyddyn academaidd, un semester, neu ychydig wythnosau yn y gwyliau.
Gall astudio yn un o'r prifysgolion sy’n bartner inni gynnig persbectif newydd ichi ar eich pwnc, ynghyd â chyfle i ddyfnhau eich astudiaethau yn Aberystwyth. Yn ogystal â hynny, gall y profiad o archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi eich sgiliau rhyngbersonol, gwella eich gallu ieithyddol, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol.
Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - Ble alla i fynd?
Cymerwch gip ar ein llyfryn Astudiaethau israddedig yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd am fwy o fanylion ynghylch y profiad tramor.
Astudiaethau israddedig
Cymraeg Q560 (llwybr iaith gyntaf)
Cynllun gradd a fydd yn ehangu eich gorwelion.
Cynigir cyfleoedd i ddysgu mwy am:
- lenyddiaeth
- diwylliant
- gwleidyddiaeth
- hanes
- cymdeithaseg.
Byddwch yn ymuno â chymuned lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithas a chyfle i fyw ac astudio mewn tref sydd yn un o gadarnleoedd yr iaith.
Bydd gradd yn y Gymraeg yn profi eich bod yn gallu eich mynegi eich hun yn Gymraeg yn effeithiol a phwrpasol, yn ysgrifenedig ac ar lafar a thrwy hynny yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddi. Mae ein myfyrwyr wedi mynd o’r radd hon i ddilyn gyrfa mewn meysydd mor amrywiol â’r diwydiant cyhoeddi, twristiaeth, masnach, y gyfraith, addysgu, gweinyddiaeth. Mae’r rhestr yn ddi-ben-draw!
Mae’r cynllun gradd hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg fel iaith gyntaf neu fel ail iaith - gweler Cymraeg (llwybr ail iaith).
Cymraeg Q560 (llwybr ail iaith)
Mae'r llwybr ail iaith yn caniatáu ichi ddatblygu hyder a gwella eich sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig yn raddol trwy'r cwrs gradd.
Byddwch chi'n graddio â'r un cymhwyster â myfyrwyr iaith gyntaf a bydd cefnogaeth arbennig ar gael y tu hwnt i oriau dysgu ar ffurf:
- oriau swyddfa ail iaith
- cynllun mentora
- paned ail iaith wythnosol
- deunyddiau atodol ar-lein.
Cymraeg (i Ddechreuwyr) Q522
O ddewis y radd hon yn Aberystwyth, byddwch yn ymuno â chymuned lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithas a chyfle i fyw ac astudio mewn tref sydd yn un o gadarnleoedd yr iaith.
Mae’r radd yn bedair blynedd ac yn ogystal â datblygu eich rhuglder a hyder yn y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig - bydd hi’n cynnig cyfleoedd i chi ddysgu am:
- lenyddiaeth
- diwylliant
- gwleidyddiaeth
- hanes
- cymdeithaseg.
Cymraeg Proffesiynol Q5P0
Cynllun gradd arloesol sy’n cyflwyno’r amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael wrth astudio’r Gymraeg gan ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol hynod o werthfawr.
Cewch gyfle i:
- ddysgu sgiliau megis cyflwyno, marchnata, golygu, cyfieithu ac ysgrifennu proffesiynol
- cwblhau profiad gwaith mewn sefydliad dwyieithog gan ennill profiad ymarferol a meithrin cysylltiadau gwerthfawr
- dysgu gan gyflogwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r Gymraeg mewn gwahanol feysydd
- dewis o blith modiwlau llenyddol, ieithyddol a chreadigol yr Adran hefyd.
Ysgrifennu Creadigol a’r Diwydiant Cyhoeddi W840
Dyma gwrs cyffrous sy’n galluogi ichi feithrin eich sgiliau creadigol ac i ddod i adnabod y byd creadigol yng Nghymru a thu hwnt yn ei holl amrywiaeth.
Cewch gyfle i:
- roi cynnig ar amrywiaeth eang o wahanol ffurfiau creadigol, o farddoniaeth i ryddiaith i ddrama i sgriptio
- arbenigo ar ffurf/iau creadigol o’ch dewis chi · derbyn hyfforddiant gan ddarlithwyr sydd hefyd yn feirdd ac awduron byd-enwog
- deall natur y diwydiant cyhoeddi sy’n cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa, nid yn unig fel awduron cyhoeddedig, ond fel pobl broffesiynol ym maes hybu a meithrin llenyddiaeth.
Cymraeg a’r Ieithoedd Celtaidd Q562
Dyma gyfle ichi astudio’r Gymraeg ochr yn ochr ag un neu fwy o’r ieithoedd Celtaidd eraill (ee Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Llydaweg).
Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau ieithyddol a llenyddol, a bydd cyfle ichi dreulio blwyddyn dramor yn Iwerddon neu Lydaw. Nid oes rhaid ichi siarad yr un o’r ieithoedd hyn cyn dechrau’r cwrs.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg o'r cychwyn cyntaf. Celtic Studies Q500 yw'r cwrs ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt wybodaeth am unrhyw iaith Geltaidd.
Astudiaethau uwchraddedig
Ac ar ôl ichi orffen eich gradd BA, mae'n bosib y byddwch am aros ymlaen ym Mhrifysgol Aberystwyth i astudio am radd uwch, neu ymuno â ni o’r newydd er mwyn gwneud hyn. Rydym yn cynnig sawl cwrs MA sy'n rhychwantu Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol, yn ogystal â graddau doethuriaeth (PhD) ac MPhil (cwrs Meistr sy'n seiliedig ar ymchwil). Mae’r graddau hyn yn rhoi cyfle ichi ddilyn pob math o drywyddau ymchwil, o’r Canol Oesoedd a chyn hynny i heddiw, o astudiaethau dadansoddol mwy traddodiadol i gyflwyno portffolio o'ch ysgrifennu creadigol eich hunan.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymchwil penodol, cysylltwch da chi â’r Adran: cymraeg@aber.ac.uk / celtic@aber.ac.uk
Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol Q596
Cwrs unigryw ac arloesol sydd yn eich paratoi’n drwyadl ar gyfer gyrfa yn y byd cyfieithu.
- Ceir sawl llwybr posib ar lefel uwchraddedig, sef Tystysgrif, Diploma, MA neu un modiwl ar y tro.
- Cynigir profiad amhrisiadwy yn y gweithle wrth efelychu amodau gwaith go iawn y cyfieithydd proffesiynol.
- Darperir gweithdai ymarferol gan arbenigwyr cyfieithu.
- Ceir cyfle i brofi pob agwedd ar gyfieithu, megis cyfieithu ysgrifenedig, cyfieithu ar y pryd ac isdeitlo.
- Darperir hyfforddiant golygu ac ôl-olygu.
- Ceir cyfle i arbenigo ee ym maes cyfieithu cyffredinol, cyfieithu deddfwriaethol, cyfieithu llenyddol neu gyfieithu ar y pryd.
MA Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Q506
Dyma gwrs meistr a addysgir sy’n cynnig ystod o fodiwlau iaith a llenyddiaeth (y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Saesneg), gan gynnwys Cymraeg Modern, Cymraeg Canol, Gwyddeleg Modern, Hen Wyddeleg a Gaeleg yr Alban.
Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o’ch dewis o dan gyfarwyddyd arbenigwr yn y maes.
MPhil a PhD
Mae'r Adran yn ymfalchïo yn ei hymchwil ac yn croesawu myfyrwyr ymchwil uwchraddedig, boed fel myfyrwyr o'r Adran yn Aberystwyth neu y tu hwnt.
Gradd ymchwil un flwyddyn yw'r llwybr MPhil. Byddwch yn ysgrifennu traethawd o 60,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Iaith a Llenyddiaeth y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd a hyn dan oruchwyliaeth arbenigwr yn eich dewis pwnc.
Mae'r radd PhD yn radd ymchwil dair blynedd ac yn arwain at ddoethuriaeth. Byddwch yn ysgrifennu traethawd o 80,000-1000,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Iaith a Llenyddiaeth y Gymraeg neu Astudiaethau Celtaidd a hyn dan oruchwyliaeth arbenigwr yn eich dewis pwnc.
Byddwn yn falch iawn o ymateb i ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y llwybrau gradd hyn. Cysylltwch â cymraeg@aber.ac.uk / celtic@aber.ac.uk.
Ffynonellau nawdd posib
Darllenwch am y gwobrau sy'n benodol i Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:
Bwrsariaeth Margaret Evelyn "Lynne" Williams
I ddysgu mwy am ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol yn fwy cyffredinol, mynnwch gip ar y gwahanol bosibiliadau nawdd a chefnogaeth i astudio israddedig neu'r gwahanol bosibiliadau nawdd a chefnogaeth i astudio uwchraddedig sydd ar gael.
At hyn ceir ysgoloriaethau uwchraddedig achlysurol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Adran: cymraeg@aber.ac.uk / celtic@aber.ac.uk
Cysylltu â ni
Cewch ymweld â ni yn ein prif swyddfa, ein ffonio neu anfon e-bost atom.
Mae'r Brif Swyddfa ar agor ar yr adegau canlynol:
Dydd Llun |
9:00 yb - 5:00 yh |
Dydd Mawrth |
9:00 yb - 5:00 yh |
Dydd Mercher |
9:00 yb - 5:00 yh |
Dydd Iau |
9:00 yb - 5:00 yh |
Dydd Gwener |
9:00 yb - 4:00 yh |
Dydd Sadwrn |
Ar Gau |
Dydd Sul |
Ar Gau |
Cyfeiriad:
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Adeilad Parry-Williams
Prifysgol Aberystwyth
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3AJ
Rhif ffôn:
+44 (0)1970 621537
E-bost:
cymraeg@aber.ac.uk / celtic@aber.ac.uk
Cyfryngau Cymdeithasol
Gallwch hefyd ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fywyd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, bywyd ar y campws, digwyddiadau, a llawer mwy.
Trydar - @CymraegAber / @CelticAber
Facebook - @CymraegAber / @CelticAber
Instagram - @cymraegaberceltic