Sgiliau Gweithio mewn Tîm
Mae gallu gweithio’n effeithiol ac yn hapus mewn tîm yn sgìl hanfodol.
Yn enwedig yn y diwydiant meddalwedd, lle gall fod yn anodd gosod amcanion ar y cyd, a lle gall y swyddogaethau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion hynny fod yn amrywiol ac yn anodd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cymryd rhan mewn diwrnod o weithgaredd i ddysgu am adeiladu tîm a gwaith tîm mewn ffordd anacademaidd, iach. Caiff myfyrwyr eu rhoi mewn timau a thros y ddydd byddwch yn mynd i’r afael â chyfres o dasgau a gynlluniwyd i ddangos sut mae timau’n gweithio a beth yw eich cryfderau chi mewn tîm. Bydd y diwrnod o weithgaredd hefyd yn gyfle i helpu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf ddod i adnabod ei gilydd fel y bydd yn llawer haws iddynt gydweithio ar brosiectau academaidd yn nes ymlaen.
Cewch gyfle yn yr ail flwyddyn i roi’r hyn a ddysgoch ar waith, pan fydd yr holl fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiect grŵp. Yn eich prosiect grŵp, byddwch yn cymryd un o’r swyddogaethau a geir mewn diwydiant – megis rheolwr prosiect, cynllunydd neu reolwr sicrhau ansawdd – i greu darn o feddalwedd gweithredol, gan ddilyn arferion diwydiannol gorau’r oes ar bob cam.