Cyfleoedd Cyllido
Mae’r Adran yn cynnig graddau ymchwil PhD (fel rheol 3 blynedd amser llawn) ac MPhil (1 flwyddyn amser llawn). Mae gennym nifer o gyfleoedd cyllido, gan gynnwys ein hysgoloriaethau doethurol mawreddog, AberDoc, a nifer o ysgoloriaethau doethurol tramor i fyfyrwyr rhyngwladol a fydd yn talu’r gwahaniaeth rhwng ffioedd dysgu tramor a ffioedd dysgu’r DU.