Hanes Grŵp Ymresymu Datblygedig
Mae enw’r grŵp hwn wedi newid wrth iddo esblygu. Sefydlwyd y grŵp yn ôl yn y 1980au, pan sylweddolodd y grŵp ymchwil roboteg y gallai modelau meddalwedd fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddadansoddi gwallau a chanfod methiannau. Roedd y grŵp roboteg yn ceisio adeiladu meddalwedd rheoli robotiaid a allai ganfod gwallau yn awtomatig a dod o hyd i ffyrdd o’u datrys. Roedd hyn yng nghyd-destun adeiladu awtomataidd: rhaglennu robotiaid i adeiladu cydrannau diwydiannol o gasgliad o rannau bach. Roedd dulliau seiliedig ar reolau yn boblogaidd iawn bryd hynny (ac yn broffidiol yn fasnachol) ac fe'u defnyddiwyd i ymgorffori rheolau arbenigedd dynol (a elwir yn aml yn Systemau Arbenigol). Canfuom fod gormod o wybodaeth yn gorfod cael ei rhaglennu i'r system yn hytrach na chael ei chynhyrchu gan y system ei hun. Ond pe bai'r system yn cynnal model o'r gydran oedd yn cael ei hadeiladu, yna gallai gymharu cyflwr y gydran â chyflwr y ddelfryd a welwyd yn y model. Roedd hyn yn ymddangos yn addawol iawn, ac roedd gan sawl un yn yr adran ddiddordeb mewn adeiladu modelau, felly ffurfiwyd y grŵp, a’i alw y grŵp Systemau Seiliedig ar Fodelau.
Ar ôl gwneud llawer o waith ar fodelu gwrthrychau ffisegol, gwelsom bod modd modelu cylchedau trydanol gyda'r un technegau yr oeddem wedi'u datblygu ac, ychydig yn annisgwyl, eu bod yn haws i’w modelu na dyfeisiau mecanyddol. Daeth y grŵp yn adnabyddus yn rhyngwladol, ac roedd ei lwyddiannau cynnar mwyaf nodedig ym maes technegau canfod a dadansoddi methiannau wrth ddylunio cylchedau yn y diwydiant modurol. Yn sgil ein techneg ni, awtomeiddiwyd proses safonol y diwydiant, sef FMEA (Failure Mode Effects Analysis), gan ei wneud ugain gwaith yn gyflymach. Mae ein gwaith arall ar resymu ar sail modelau yn cynnwys ymchwilio i broblemau diagnostig a monitro cyffredinol mewn gwaith â phroses barhaus (Grŵp Corus, Dur Prydain gynt). Cynhyrchodd yr Athro Chris Price fonograff ymarferydd awdurdodol yn crynhoi'r technegau diagnostig diweddaraf sy’n seiliedig ar feddalwedd – sef Systemau diagnostig cyfrifiadurol. Springer-Verlag, 1999.
Bryd hynny, prif dechnoleg y grŵp oedd Rhesymu Ansoddol (QR), sy'n defnyddio newidynnau ansoddol fel 'uchel', 'canolig' neu 'isel' yn lle mesurau meintiol traddodiadol. Daeth aelodau'r grŵp yn weithgar iawn yn y gymuned ymchwil ryngwladol ym maes QR, gan gynnwys gweithredu fel cadeiryddion rhaglenni ac aelodau pwyllgor ar gyfer y gweithdai a'r cynadleddau rheolaidd, yn enwedig y gweithdai rhyngwladol ar Egwyddorion Diagnosis, DX, ac ar Resymu Ansoddol, a'r gweithdai ar Gymhwyso Systemau Rhesymu Ansoddol, a systemau seiliedig ar Fodelau a Rhesymu Ansoddol, yng nghynadleddau’r ECAI.
Roedd cwmpas ein gwaith ym maes Rhesymu Ansoddol yn cynnwys problemau modurol penodol, modelu cydrannau swyddogaethol, a modelu unedau rheoli electronig. O fewn y gymuned ymchwil, roedd yna ddiddordebau mewn rhesymu niwlog a chyfuniad o ddulliau niwlog gyda Rhesymu Ansoddol. Ehangwyd y maes ymchwil hwn yn sylweddol gan yr Athro Qiang Shen, a arloesodd y gwaith ar integreiddio rhesymu bras a rhesymu ar sail modelau. Ers 2004, newidiodd enw'r grŵp i’r Grŵp Rhesymu Uwch i adlewyrchu’r ffaith ei fod yn ymdrin â rhesymu ansoddol a bras, dulliau o gynrychioli gwybodaeth, a datrys problemau ar sail modelau.