Ymresymiad Datblygedig
Mae’r Grŵp Rhesymu Uwch (ARG) yn ymdrin â holl brif feysydd Deallusrwydd Cyfrifiadurol (CI). Mae'n un o'r grwpiau sy'n arwain y byd yn y maes…
... ac mae’n arbennig o enwog am ddyfeisio technegau bras sy’n cynnal y semanteg ar gyfer ffurfio a symleiddio modelau gwybodaeth benodol ac am ei waith arloesol ar gynorthwyo penderfyniadau ar sail data gyda lefel uwch o awtomeiddio, effeithlonrwydd a dibynadwyedd.
Ar ben hyn, un o’n prif gryfderau yw pontio technegau uwch ym meysydd cyfrifiadu esblygol, gwyddor data, a thechnolegau eraill sydd ar eu twf, megis gefeillio digidol, gyda dulliau modelu gwneud penderfyniadau.
Mae ein grantiau a’n ceisiadau yn canolbwyntio ar adeiladu systemau cefnogi penderfyniadau deallus, yn enwedig o ran canfod ac atal troseddu, dadansoddi dylunio ym maes peirianneg, diagnosis gan gyfrifiaduron, a dadansoddi data synhwyro o bell at ddibenion monitro amgylcheddol. Mae'r pynciau'n cynnwys: dadansoddi methiannau lluosog (FMEA) a dadansoddi cylchedau (sneak circuit analysis); dadansoddi cylch bywyd cyfan systemau awtomataidd ar sail modelau; dysgu ansoddol seiliedig ar fodelau; echdynnu gwybodaeth o setiau data dimensiwn uchel; modelu cyfansoddiadol a thrin dewisiadau; a modelu data a rhesymu heb fawr o wybodaeth. Fel ymchwilwyr blaenllaw yn y meysydd perthnasol, rydym wedi arwain a/neu gyfrannu at drefnu llu o ddigwyddiadau rhyngwladol a chenedlaethol yn y maes, gan gynnwys cadeirio llawer o ddigwyddiadau nodedig (ee, Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Systemau Niwlog 2007, Gweithdy’r EPSRC ar Ddyfodol Ymchwil i Systemau Niwlog, a 20fed pen-blwydd y Gweithdy Blynyddol ar Ddeallusrwydd Cyfrifiadurol yn 2021). Rydym hefyd yn ehangu’r bartneriaeth ymchwil ryngwladol trwy brosiectau ar y cyd a chyfnewidiadau: Newton Intuitional Link 2021, COST: European Cooperation in Science and Technology, a Korean Capacity Building in AI 2023-25, er enghraifft.
Pynciau Ymchwil
- Rhesymu ansoddol, dadansoddi methiannau lluosog FMEA a dadansoddi cylchedau (sneak circuit analysis), dadansoddi a dysgu yn seiliedig ar fodelau,
- Rhesymu bras, systemau niwlog, setiau niwlog a bras,
- Cyfrifiadu esblygol a chwilio hewristig ar hap,
- Technegau CI ar gyfer rheoli robotiaid a dadansoddi delweddau,
- Gwyddoniaeth a pheirianneg data, rhag-brosesu data, Deallusrwydd Artiffisial egluradwy, a
- Rhesymu achosol cyfrifiadurol, dychymyg swyddogaethol, a greddf artiffisial yng nghyd-destun gefeillio digidol.