Rhybudd ‘Cwci’ yn ennill ‘Gwobr y Bobl’ i fyfyriwr o Aberystwyth
Jasmine Kam, enillydd ‘Gwobr y Bobl’ yng nghynhadledd BCS Women Lovelace 2024, sy’n astudio am radd mewn cyfrifiadureg.
26 Ebrill 2024
Mae myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi annog defnyddwyr cyfrifiaduron i “feddwl cyn clicio” pan fyddant yn derbyn cais i dderbyn cwcis ar-lein.
Mae’r myfyriwr cyfrifiadureg ail flwyddyn Jasmine Kam wedi bod yn astudio effeithiau posibl derbyn cwcis porwyr, ffeiliau testun bach sy'n cael eu trosglwyddo i gyfrifiaduron neu ffonau symudol wrth ymweld â gwefan neu ap.
Cyflwynodd Jasmine ei gwaith yng Ngholociwm Lovelace BCSWomen 2024, prif gynhadledd y Deyrnas Gyfunol ar gyfer myfyrwyr benywaidd ac anneuaidd.
Trefnir y gynhadledd gan BCSWomen, grŵp merched mewn technoleg y BCS, Sefydliad Siartredig Technoleg Gwybodaeth, a chafodd ei chynnal gan Brifysgol Lerpwl eleni.
Yn ei chyflwyniad poster, ‘So…cookies aren’t yummy?’, rhybuddiodd Jasmine am beryglon derbyn cwcis a chanlyniadau posibl i ddefnyddwyr ar y we.
O’r 170 a gyrhaeddodd y rownd derfynol ac a wahoddwyd i Lerpwl i gyflwyno eu gwaith, cyflwyniad Jasmine dderbyniodd y nifer mwyaf o bleidleisiau gan fynychwyr y gynhadledd yng nghystadleuaeth Gwobr y Bobl.
Wrth siarad am ei llwyddiant, dywedodd Jasmine: “Roedd yn wych derbyn Gwobr y Bobl. Rhoddwyd tri sticer i bawb yn y gynhadledd i nodi eu hoff bosteri ac felly ro’n i’n gwybod fy mod wedi casglu rhai. Roedd fy nghalon i’n curo wrth i’r cyhoeddiad gael ei wneud.”
“Wrth siarad am gwcis, rwy’ wedi sylwi sut y mae pobl wedi bod yn eu derbyn, ond yn ystod fy sgyrsiau yn ystod y gynhadledd roedd yna sylweddoliad na ddylen nhw dderbyn pob cwci bob tro. Fy nghyngor i yw i ddefnyddwyr reoli eu dewisiadau: gallai derbyn y cwcis anghywir arwain at faleiswedd neu firws ar gyfrifiadur neu hyd yn oed ddwyn hunaniaeth, yn ogystal â chael eu plagio gan e-byst gwe-rwydo.
“Ces i’r teimlad bod fy mhoster wedi gwneud i bobl feddwl am yr hyn y maen nhw’n ei wneud – ac i feddwl cyn clicio”.
Bellach yn ei 17eg flwyddyn, sefydlwyd Colociwm Lovelace BCSWomen yn 2008 gan Dr Hannah Dee, Uwch Ddarlithydd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yr ysgogiad i Dr Dee oedd ei phrofiad o fod “yr unig fenyw yn yr ystafell” mewn cynhadledd ymchwil yn 2004, ac mae’r gynhadledd yn arddel enw’r mathemategydd Ada, Iarlles Lovelace, sy’n cael ei hadnabod fel rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf y byd.
“Mae cynhadledd Lovelace mor bwysig i ferched sy’n astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) gan ei bod hi’n rhoi cyfle i ni gynrychioli ein hunain a lleisio ein barn ein hunain a fyddai, efallai, wedi bod yn gudd y tu mewn i ni yn y gorffennol. Gallwn ni nawr siarad am yr hyn rydyn ni’n ei feddwl yn agored, a gall hynny ond fod yn beth da”, dywedodd Jasmine a oedd yn mynychu’r gynhadledd am yr ail waith.
Yn wreiddiol o Fanceinion, mae Jasmine yn astudio am radd mewn Cyfrifiadureg.
Fel rhan o'r rhaglen bydd yn treulio ei blwyddyn mewn diwydiant yn gweithio yn Llundain gyda'r banc o'r Swistir UBS Group AG lle mae'n gobeithio dysgu mwy am feddalwedd ym maes rheoli cyfoeth ac asedau.
Yn chwaraewr brwd o gemau cyfrifiadurol, doedd Jasmine ddim yn sicr os mai prifysgol oedd y dewis gorau iddi hi yn y lle cyntaf.
“Yn Aber dwi’n meddwl fy mod i ar y llwybr iawn a bydd y brifysgol yn sicr yn agor drysau i mi, mae cymaint o gyfleoedd. Mae hefyd wedi bod yn wych cwrdd â chymaint o bobl newydd yma ac mae’r amrywiaeth cefndir yn llawer ehangach nag ro’n i wedi’i ddisgwyl.”
Mae Jasmine yn astudio gradd BSc pedair blynedd mewn Cyfrifiadureg gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant. Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg.