Blwyddyn ddiwydiannol
Anogir ein holl fyfyrwyr i dreulio blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant cyfrifiadureg rhwng ail a thrydedd flwyddyn eu gradd, er mwyn eu gwneud yn fwy deniadol yn y farchnad swyddi pan fyddant wedi graddio.
Yr ydym yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau gradd sy’n cynnwys blwyddyn integredig yn y diwydiant, fydd yn rhan orfodol o’ch cwrs, ac yn cael ei hasesu. Swyddi go iawn, gyda thâl, ydy'r lleoliadau diwydiannol hyn, ac maent yn cael eu cynnig gan amrywiaeth o gyflogwyr, o gwmnïau bychain hyd at gorfforaethau mawr rhyngwladol, yn y DU a thramor.
Er bod llawer o gyflogwyr yn cymryd ein myfyrwyr yn rheolaidd, nid ydym yn ‘lleoli’ nac yn ‘neilltuo’ myfyrwyr fel y cyfryw. Yn hytrach, y cyflogwyr sy’n rhoi swydd-ddisgrifiad i ni, a ninnau wedyn yn dosbarthu hwn i’n myfyrwyr. Bydd y myfyrwyr wedyn yn ymgeisio am y swyddi y mae ganddynt hwy ddiddordeb ynddynt ac fe fyddant yn cael cyfweliad neu’n dilyn trefniadau dewis eraill yn ôl arferion recriwtio arferol y cyflogwr.
Bydd yr Adran a Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i ddod o hyd i leoliadau addas ac yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld a’ch CV. Cewch eich cefnogi hefyd gan eich goruchwyliwr academaidd tra byddwch allan ar leoliad, ac os mai yn y DU y byddwch, fe allwch dderbyn ymweliad personol gan eich goruchwyliwr.
Mae galw mawr am ein myfyrwyr Blwyddyn Ddiwydiannol gyda chyflogwyr o bwys fel IBM, HP a Microsoft.
Erbyn diwedd eich ail flwyddyn bydd gennych eisoes ddigon o wybodaeth a dealltwriaeth i wneud cyfraniad sylweddol i’r gweithle. Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael eu bod yn dychwelyd o’u blwyddyn ddiwydiannol gyda sgiliau llawer gwell, mwy o symbyliad i ddysgu, gwell syniad o’r meysydd cyfrifiadureg sydd o ddiddordeb arbennig iddynt hwy, a’r llwybr gyrfa y carent ei ddilyn ar ôl graddio.
Gall myfyrwyr ar gynlluniau gradd heb flwyddyn ddiwydiannol gymryd blwyddyn ryngosod nad yw’n cael ei hasesu trwy’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (YES), sy’n cael ei redeg gan Wasanaeth Gyrfaoedd y brifysgol; fodd bynnag, ni fyddwch yn derbyn unrhyw gredydau modiwl trwy gymryd y dewis hwn.
Mae mwy o wybodaeth i fyfyrwyr a chyflogwyr ar dudalennau Blwyddyn Ddiwydiannol yr Adran.