Cyfleusterau
Fel y gallech ddisgwyl mewn adran ymchwil o bwys, mae cyfleusterau Cyfrifiadureg sydd ar gael i chi yn rhagorol.
Ynghyd â nifer o labordai dysgu adrannol a chyfadrannol sydd ag amrywiaeth o weithfannau, bydd rhyw 800 o gyfrifiaduron ar gael i chi eu defnyddio ar hyd a lled y campws, gan gynnwys y rhai yn ein hadeilad ni ein hunain, y brif lyfrgell, ac yn neuaddau preswyl y myfyrwyr. Maent oll wedi eu cysylltu â’r rhyngrwyd ac y mae llawer ar agor 24 awr y dydd. Mae gan bob ystafell wely yn llety’r Brifysgol gyswllt diwifr â’r rhwydwaith.
Mae gan yr Adran amrywiaeth helaeth o gyfarpar a ddefnyddir yn bennaf er mwyn ymchwil, sydd ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn olaf sy’n dewis prosiectau yn y meysydd ymchwil hyn. Mae’r rhain yn cynnwys tri labordy roboteg gyda’r holl gyfarpar sy’n ymdrin â roboteg dan do, awyr agored a’r gofod, yn ogystal â labordy sy’n arbenigo ar realaeth gymysg, sy’n cynnwys rhithwir, realaethau estynedig ac amrywiol systemau olrhain mudiant. Ar rai modiwlau, bydd y myfyrwyr yn cael defnyddio cyfarpar a fydd yn cael eu neilltuo iddyn nhw eu hunain tra byddant yn astudio’r modiwl hwnnw, gan gynnwys micro-reolyddion Arduino a llwyfannau robotaidd bach.