Cyflogadwyedd
Gwella’ch sgiliau i’r gweithle yw un o’n blaenoriaethau allweddol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau trwy gydol eich amser yn y brifysgol er mwyn gwella eich cyflogadwyedd.
Eich posibiliadau gyrfaol
Mae Adran Cyfrifiadureg yn falch o gyfraddau cyflogaeth ein graddedigion. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr ydym yn eich helpu i baratoi am fywyd wedi graddio ac am waith ar ôl eich gradd.
Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd
Blwyddyn 1
Blwyddyn 2
Blwyddyn Ddiwydiannol
Blwyddyn Olaf
Jon Shire
Ar ôl sawl blwyddyn o weithio yn y diwydiant cyfryngau, penderfynais i symud tuag at y maes dyluniad meddalwedd gan obeithio y byddai’n ehangu ar fy sgiliau dyluniad graffeg ac effeithiau gweledol, sgiliau sy’n dibynnu ar allu i raglenni. Mae’n well gyda fi amgylchedd personol i weithio ynddo, felly mae Aberystwyth yn le perffaith i mi. Mae gan yr Adran strwythur cadarn wrth ddysgu, ond caiff fyfyrwyr gefnogaeth gydag unrhyw prosiectau personol, naill ai o ran cyngor neu drwy ddefnydd o gyfleusterau a chyfarpar. Gallwch fanteisio ar hyn o gwmpas eich astudiaethau. Wnaiff hyn eich annog chi i fod yn greadigol ac yn hyblyg. Er enghraifft, yn fy nhraethawd estynedig yn ystod fy mlwyddyn olaf, wnes i ymgorffori gêm realiti rhithwir (VR) fel rhan o brosiect personol. Roeddwn i’n un o’r rhai myfyrwyr cyntaf i ddefnyddio’r ystafell VR i arddangos fy ngwaith ac enillais i radd uchel, oherwydd, mae’n siŵr, fy mod wedi cynllunio’r prosiect fy hun. At hynny, ers i fi adael Aberystwyth, dw i wedi dechrau cwmni unwaith eto, sy’n darparu profiadau VR rhyngweithiol. Dw i’n canolbwyntio’n bennaf ar fynediad i gemau VR i bobl anabl ar hyn o bryd. Ond dw i’n gwneud mwy na freuddwydio’n unig. Gall y flwyddyn ddiwydiannol opsiynol fod yn hynod o lesol i chi hefyd. Ces i’r profiad o weithio i gwmni meddalwedd blaengar sy’n datblygu offer CAD ar gyfer peirianneg drydanol. Oherwydd fy lleoliad, ces i gyfle i wella fy CV ynghyd â swydd lawn-amser ar ôl i fi raddio. Dw i ar hyn o bryd yn gweithio i’r un cwmni! Doeddwn i ddim yn disgwyl i syrthio mewn cariad ag Aberystwyth neu’r Adran Gyfrifiadureg ei hun. Mae’r staff ymysg y bobl fwyaf cefnogol yr ydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gwrdd â nhw, neu i ddysgu gyda nhw. Yn syml, ni ddylwn i fod lle’r ydw i heddiw heb gyfleusterau’r adrannau neu ymdrech y bobl a’m harweiniodd.Adam Jones
Penderfynais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ychydig o flynyddoedd cyn oeddwn i’n gallu ymgeisio! Roeddwn i’n caru’r lle gan fy mod wedi dod sawl gwaith ar wyliau gyda fy nheulu i Geredigion ac roeddwn i’n llawn cyffro i astudio Cyfrifiadureg ar ôl ysgol uwch. Nawr, fel athro Cyfrifiadureg ac Electroneg, dw i wrth fy modd yn gweld grŵp o gyfrifiadurwyr potensial ifanc yn ymddiddori ac yn mwynhau’r datblygiadau technolegol rhyfeddol sydd ar gael iddynt! Mae mwy a mwy o ysgolion cynradd yn y DU yn darparu plant gydag amryw ieithoedd rhaglennu a thechnegau, ac mae ein cyfrifoldeb ni fel graddedigion yw cefnogi’r maes addysg gan gefnogi ac addysgu’r cenhedlaeth nesaf o bobl ifanc! Mae gan bob un o’r myfyriwr yr ydw i â’r fraint o’u haddysgu y potensial i feddwl o syniad, datblygu darn o feddalwedd neu fod yn rhan o dîm o beirianwyr sy’n cynhyrchu technolegau newydd a chynhyrfus. Mae hwn yn ffaith gynhyrfus i fi! Mewn gwlad sydd â phobl ifanc sy’n awyddus am wersi Cyfrifiadureg, cwricwlwm cenedlaethol sydd wastad yn ehangu a diffyg o raddedigion sy’n fodlon dilyn gyrfa mewn addysg, mae’n amser cynhyrfus i ymgymryd â rôl addysgu! Dw i newydd wedi dechrau yn fy swydd, a dw i’n awyddus i barhau gyda hi. Dw i’n ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am y cyfleoedd y ces i yno i ddatblygu, gweithio a thyfu. Mae’r Brifysgol yw’r lle a wnaeth arwain fy nealltwriaeth academaidd ac a’m helpodd i fod yr athro yr ydw i nawr.Didi Gradinarska
Wnes i astudio Cyfrifiadura’r We a Gweinyddiaeth Systemau gydag un flwyddyn mewn lleoliad diwydiannol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac wnes i raddio yn 2016. Dechreuodd fy angerdd tuag at y cwrs o’m dewis tra oeddwn i dal yn yr ysgol uwch a dyma’r hyn a wnaeth i mi ddilyn addysg y tu hwnt i’r ffiniau o’m gwlad, a’m harweiniodd i Aberystwyth. Yn ystod y cwrs hwn, roeddwn i’n gweithio gydag amryfal ieithoedd rhaglennu a dysgais i lawer am Weinyddiaeth Systemau, a ches i’r cyfle i ennill profiad o dopigau sy’n gysylltiedig â busnes. Mewn unrhyw brifysgol, gall fyfyriwr dderbyn addysg o sawl topig sy’n gysylltiedig â’i radd, ond yn Aberystwyth fe gewch chi fwy na hynny. Fel myfyrwraig ryngwladol, llwyddais i ymdopi â gwahaniaethau rhwng ieithoedd mewn amser byr oherwydd gofal a sylw y staff ar dyfiant personol y myfyrwyr. Enillais i, dim ond addysg, ond y cam cyntaf o’m gyrfa o’r Brifysgol hon, a ches i lawer o gyfleoedd i hyfforddi am gyfweliadau a chanolfannau asesiad. Mae dod o hyd i rywun sy’n credu ynddoch chi ydy’r cam cyntaf o ddod o hyd i’r swydd o’ch breuddwydion a dyma sut y gwnaeth y staff i mi deimlo. Dechreuodd fy nghefnogaeth gyda dysgu a gwnaeth staff fy helpu i ddod o hyd i leoliad gyda GE Corporate. Blodeuodd fy angerdd am dechnoleg yno ac es i ymlaen i gael swydd raddedig gyda GE Healthcare yn y Raglen Arweinyddiaeth Dechnoleg Ddigidol. Nawr, dw i’n dysgu ac yn datblygu’n bersonol o hyd, yn gweithio ar wahanol prosiectau sydd ag effaith fasnachol go iawn a dechreuodd popeth gyda chymuned gefnogol Aberystwyth. Dw i’n ddiolchgar pob dydd.