Pam dewis Aberystwyth?

Prifysgol Aberystwyth, ar arfordir gorllewin Cymru, yw’r lle i chi astudio, darganfod a thyfu. Ers 1872, rydym wedi magu enw da ledled y byd am ragoriaeth ein dysgu a'n hymchwil arloesol ac rydym yn cynnig profiad myfyrwyr diguro mewn lleoliad heb ei ail.

Mae myfyrwyr sy’n ymuno a ni trwy’r broses Glirio o fis Medi 2024 yn elwa o sicrwydd o lety sy’n cynnwys aelodaeth Blatinwm am ddim yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn ogystal â cherdyn rheilffordd 16-25 am ddim, sy’n ei gwneud hi’n haws teithio yn ôl ag ymlaen i’r Brifysgol.

Mae Aberystwyth wedi’i gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd, sy’n golygu ei fod yn lle fforddiadwy i fyw ynddo o gymharu â llawer o drefi a dinasoedd prifysgol eraill. 

Edrychwch isod am fwy o resymau pam y dylech ystyried gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymchwil sy'n arwain y byd

O fynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella ansawdd a dulliau cynhyrchu bwyd, hybu iechyd pobl ac anifeiliaid, i ddatblygu deallusrwydd artiffisial a helpu i ddatblygu'r gwaith o archwilio'r gofod, mae ein hymchwilwyr yn flaenllaw ac arloesol, ac mae buddiannau rhyngwladol eang wedi deillio o ddylanwad ac effaith ein hymchwil. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf dyfarnwyd bod 98% o’n hymchwil o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch (FfRhY 2021).

Darganfod ein cymuned flaengar

Profiad unigryw i fyfyrwyr

Yn Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i gynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr; mae’r Brifysgol wedi’i gosod ar y brig yng Nghymru am Foddhad Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023). Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i dros 100 o glybiau a chymdeithasau, sy'n golygu mai dyma’ch lle i ddilyn diddordebau oes neu ddarganfod diddordebau newydd. Mae ein campws bywiog yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, caffis, bwytai, Canolfan Chwaraeon a meysydd chwarae, yn ogystal â Thai Gwydr y Gerddi Botaneg (sy’n cynnwys planhigion trofannol).

Dysgwch fwy

Cymorth ariannol wrth i chi astudio

Yn Aberystwyth, rydym yn cynnig pecyn hael o ysgoloriaethau a bwrsariaethau, a gall myfyrwyr sy'n gwneud cais i astudio yn Aberystwyth trwy’r broses Glirio fod yn gymwys i dderbyn ein Hysgoloriaeth Rhagoriaeth Academaidd, sy’n werth £2,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau