Cymorth i Fyfyrwyr a Lles
Mae cefnogi ein myfyrwyr yn flaenoriaeth i ni, ac mae ein tîm o gynghorwyr arbenigol yn darparu lle diogel a gwarantu cyfrinachedd fel y gall myfyrwyr siarad am unrhyw faterion sy’n effeithio ar eu gallu i astudio.
Mae ein tîm yn cynnig cyngor gydag ystod o wasanaethau sy'n cynnwys:
- Cyngor Ariannol a Chymorth i Fyfyrwyr:
sy’n darparu cymorth ar ystod eang o faterion, gan gynnwys llety, cynnydd academaidd a bywyd yn y brifysgol. - Hygyrchedd:
yn sicrhau bod bywyd y brifysgol yn agored i bawb, gyda chymorth yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr ag anableddau, y rhai ag anghenion dysgu penodol, y rhai sy'n gadael gofal a myfyrwyr eraill sydd heb gynhaliaeth, a myfyrwyr traws ac anneuaidd. - Lles Myfyrwyr:
technegau i helpu myfyrwyr i feithrin gwydnwch a rheoli eu lles tra byddant yn y brifysgol, ac wedyn. - Cynllun Mentora ‘Ffordd Hyn’:
cynllun mentora cyfeillgar a chyfrinachol ar gyfer yr holl israddedigion newydd gan gyd-fyfyrwyr sy'n cynnig cyngor un-i-un i helpu myfyrwyr i ymgartrefu a mwynhau eu hamser yn y brifysgol. - Cyngor ar Fisâu a Mewnfudo:
yn darparu cyngor arbenigol ar fisâu astudio ar gyfer darpar fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr rhyngwladol presennol. - Llinell Nawdd Nos:
gwasanaeth gwrando annibynnol sy’n cael ei redeg gan fyfyrwyr, i fyfyrwyr. Mae'n cynnig llinell gymorth gyfrinachol a gwasanaeth ebost a negeseua gwib.