Straeon Llwyddiant Clirio

Mae nifer o fyfyrwyr yn sicrhau lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy Glirio bob blwyddyn. Dyma brofiadau rhai o'n myfyrwyr o fynd drwy’r broses Glirio a dewis Aberystwyth fel eu lle i astudio.

Bea Parry: BSc Ecoleg

"Fe wnes i gais am gwrs drwy’r broses Glirio oherwydd mai penderfyniad munud olaf ydoedd ar ôl i mi adael swydd nad oeddwn i wir yn ei mwynhau."

Clearing Student

Roeddwn i awydd rhoi cynnig ar rywbeth newydd, ac roedd mynd i’r brifysgol yn ymddangos fel syniad da. Wrth wneud cais drwy’r broses Glirio, roeddwn i ychydig yn nerfus ac mewn panig gan ei fod yn benderfyniad munud olaf, ond roeddwn hefyd yn llawn cyffro am y posibilrwydd o fynd i'r brifysgol.

Fe wnes i gais drwy UCAS, a oedd yn dda iawn yn fy marn i oherwydd eu bod yn torri popeth i lawr i broses cam wrth gam, a oedd yn gwneud pethau’n syml iawn.

Fe wnes i baratoi ar gyfer y broses Glirio ymlaen llaw, ac mae'n rhywbeth rwy'n ei argymell, edrychwch ar y cyrsiau sydd ar gael. Ar y dechrau, roeddwn i wir eisiau astudio Cadwraeth Bywyd Gwyllt, ond ar ôl edrych yn fanylach, sylweddolais fod gan Ecoleg ystod ehangach o bynciau ar gael ac y byddai hynny'n gweddu'n well i mi.

Mae bywyd myfyrwyr yn Aberystwyth yn eithaf amrywiol, ac er nad dinas fawr yw hi, mae digon i'w wneud o hyd. Gallwch fynd allan gyda’r nos, fel arfer mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu llawer o ddigwyddiadau, a cheir clybiau nos. Mae yna hefyd leoedd i siopa, ac oherwydd ein bod ni'n gymuned fach, rydyn ni i gyd yn teimlo'n eithaf clos, felly mae diogelwch yn hynny, ynghyd â chostau byw is.

Y peth rwy'n ei fwynhau fwyaf am fod yn y Brifysgol mewn gwirionedd yw’r dysgu, rwyf wrth fy modd â her, felly mae dod yn ôl a dysgu pethau newydd wedi bod yn brofiad pleserus iawn.

Fy awgrymiadau da ar gyfer Clirio yw:

  • Dewch i ymweld â'r Brifysgol
  • Ymchwiliwch i'ch cyrsiau
  • Casglwch eich dogfennau at ei gilydd
  • Ffoniwch neu anfonwch e-bost os oes gennych unrhyw broblemau, naill ai at UCAS neu at Brifysgol Aberystwyth

Ashley: Y Gyfraith a Rheolaeth Busnes

"Penderfynais astudio'r Gyfraith oherwydd fy mod eisiau bod yn fargyfreithiwr. Rwy'n gobeithio cael y sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnaf i ddod yn fargyfreithiwr llwyddiannus."

Fe wnes i gais drwy’r broses Glirio oherwydd fy mod yn Zimbabwe. Gan fy mod wedi symud i'r DU ym mis Ebrill, roedd yr holl ddyddiadau cau wedi pasio. Roeddwn i'n llawn cyffro fy mod yn cael cyfle i ymgeisio, oherwydd roeddwn wedi poeni y byddai’n rhaid i mi aros tan y flwyddyn ganlynol.

Roedd yn brofiad diddorol iawn; roeddwn i'n llawn cyffro fy mod i'n cael gwneud cais ond hefyd ychydig yn nerfus oherwydd ei fod yn rhywbeth nad oeddwn i wedi'i wneud o'r blaen.

Roedd y broses ymgeisio yn eithaf hawdd, cefais gymorth gan staff y Brifysgol a oedd yn barod eu cymorth ac yn gyfeillgar, ac fe wnaethant fy nghynorthwyo gyda fy nghais drwy UCAS, aeth y cyfan yn esmwyth iawn.

Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau ar fy nghwrs ac o fewn y cymdeithasau.

Yr hyn rwy'n ei fwynhau fwyaf yw fy mod i'n cael cwrdd â phobl wahanol o wahanol gefndiroedd, mae bob amser yn braf dysgu am ddiwylliant pobl.

Fy awgrymiadau da ar gyfer Clirio yw:

  • Ymchwiliwch a phenderfynwch pa gwrs i'w astudio
  • Peidiwch â dychryn
  • Siaradwch â'r staff
  • Byddwch yn amyneddgar