Beth yw'r Broses Glirio?

Gallai Clirio fod yn llwybr yr hoffech ei ddilyn os nad yw eich canlyniadau'r hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, os ydych wedi newid eich meddwl am gwrs neu ble yr hoffech astudio, neu os mai dim ond nawr rydych wedi penderfynu gwneud cais i astudio mewn prifysgol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cwrs israddedig sy’n dechrau ym mis Medi a’ch bod yn gwneud cais drwy UCAS, mae’r broses Glirio yn darparu llwybr arall i ddod o hyd i’ch lle.

Pryd mae’r Clirio yn dechrau?  

Mae'r broses glirio yn agor ar Ddydd Gwener, 5 Gorffennaf ac yn cau ar Ddydd Llun, 21 Hydref 2024.

Pwy sy'n gymwys i fynd drwy’r broses Glirio?  

Rydych chi'n gymwys i wneud cais trwy'r broses Glirio os:

  • Ar ddiwrnod y canlyniadau fe welwch nad ydych wedi gallu sicrhau eich dewis Cadarn ac Yswiriant.
  • Rydych wedi sicrhau lle yn eich prifysgol dewis Gadarn neu Yswiriant ond wedi penderfynu nad yw'r cwrs neu'r brifysgol bellach yr un iawn i chi.
  • Fe wnaethoch chi benderfynu peidio â gwneud cais yn gynharach yn y cylch UCAS ond rydych chi eisiau mynd i'r brifysgol ym mis Medi.

Sut alla i ddarganfod pa gyrsiau sydd ar gael trwy Glirio?

O Ddydd Gwener 5ed o Orffennaf, byddwch yn gallu dod o hyd i restr o gyrsiau sydd ar gael drwy Glirio ar wefan UCAS yn ogystal â gofynion mynediad ar gyfer y cyrsiau hynny. Dylech hefyd edrych ar wefannau prifysgolion i gael gwybodaeth ychwanegol am y brifysgol, megis llety a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.

Cymerwch olwg yma i ddysgu mwy am y broses o wneud cais trwy Glirio.