Eich Cymorth Clirio

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr ym mhob agwedd o’u bywyd fel myfyriwr gan gynnwys drwy’r broses Glirio.

Yn ogystal â darparu cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion, rydym hefyd am gefnogi ein myfyrwyr trwy'r argyfwng costau byw. Bydd y rhai sy’n astudio yn Aberystwyth o fis Medi 2024 yn elwa ar:

Sut y gall disgyblion gysylltu â Phrifysgol Aberystwyth?

  • Aelodaeth Canolfan Chwaraeon am ddim: Yn ogystal â gwarantu llety i bob myfyriwr blwyddyn gyntaf, bydd y rhai sy’n dewis byw yn Neuaddau’r Brifysgol yn gallu cael mynediad i’r holl gyfleusterau chwaraeon am ddim.
  • Cerdyn Rheilffordd rad ac am ddim i fyfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf, sy'n ei gwneud hi'n haws teithio yn ôl ac ymlaen i'r Brifysgol.
  • Tocyn tymor am ddim i Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth i rai sy’n byw yn Neuaddau’r Brifysgol: Mae ein myfyrwyr yn mwynhau cefnogi Aberystwyth, ac mae rhai hefyd yn chwarae i'r tîm.

Mae Aberystwyth wedi’i gosod ymhlith y 5 Dinas Rataf yn y DU ar gyfer Llety Myfyrwyr yn ôl Student Crowd, a chaiff ei hystyried yn lle fforddiadwy i fyw ynddo o gymharu â llawer o drefi a dinasoedd prifysgol eraill. Mae ein lleoliad rhwng y mynyddoedd a’r môr hefyd yn golygu bod ein myfyrwyr yn treulio llawer o’u hamser sbâr yn yr awyr agored.