Cwestiynau Cyffredin Clirio

Cliciwch ar y cwestiynau isod i ddatgelu’r atebion i’r cwestiynau mwyaf poblogaidd. Os nad oes ateb i’ch cwestiwn, cysylltwch gyda ni ar y Llinell Gymorth Clirio 0800 121 40 80.

Beth yw Clirio?

Mae'r broses Glirio wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd heb sicrhau lle mewn prifysgol eto. Os nad ydych wedi cael y canlyniadau yr oeddech yn gobeithio am, neu os ydych wedi gwrthod pob cynnig a gawsoch, neu wedi gwneud cais ar ôl 30 Mehefin 2024, byddwch yn gymwys i ddefnyddio Clirio.

Dwi wedi derbyn fy nghanlyniadau yn barod. Alla i ymgeisio am le mewn prifysgol nawr?

Gallwch. Os ydych chi wedi derbyn eich canlyniadau arholiadau yn barod gallwch chi ymgeisio am le i astudio gyda ni trwy’r broses Glirio. Gwnewch gais ar-lein neu ffoniwch ein llinell gymorth Glirio ar 0800 121 4080 (Llinell ffôn ddi-dâl) i drafod eich cymwysterau, ein cyrsiau a mwy.

Pa gyrsiau sydd ar gael a sut ydw i’n ymgeisio?

Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ar gael i fyfyrwyr sy’n chwilio am le drwy’r broses Glirio.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd a sut i wneud cais, cysylltwch ag aelod o’n Tîm Clirio ar 0800 121 4080 (Llinell ffôn ddi-dâl).

Ar ôl i mi gael cynnig lle, beth nesaf?

Os ydych chi’n cael cynnig geiriol ar ôl siarad ag aelod o’r Tîm Clirio, byddwch yn cael neges e-bost yn egluro sut y gallwch dderbyn y cynnig. Gellir derbyn cynigion trwy ddefnyddio’r tab ‘Add Clearing Choice’ ar eich Cofnod UCAS Hub.

 

1. Cofiwch ychwanegu eich dewis Clirio drwy’r UCAS Hub byddwch angen:

  • Eich Rhif Personol UCAS
  • Cod UCAS Aberystwyth - ABWTH A40
  • Cod y Cwrs
  • Gofynnir i chi am God y Campws - gadewch hwn yn wag
  • Dyddiad dechrau 23-09-2024

*Os ydym ni wedi gofyn i chi am brawf o’ch cymwysterau a geirda, cofiwch anfon rhain atom*

 2. Ar ôl i chi gadarnhau eich lle gyda ni, mi fydd y tîm llety’n cysylltu â chi drwy e-bost yn eich gwahodd i wneud cais am lety'r Brifysgol.

3. Cysylltwch â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu eich cyllid. Gallwch hefyd gysylltu â’n Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr os oes gennych unrhyw ymholiadau.

4. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth ichi am Wythnos y Glas.

 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cadarnhau eich lle 0800 121 4080 (Llinell ffôn ddi-dâl) neu clirio@aber.ac.uk

Os ydw i’n cael cynnig lle, pryd mae angen penderfyniad?

Byddem yn argymell eich bod yn derbyn eich cynnig cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eich lle â ni. 

Pa gyllid sydd ar gael i gynorthwyo fy astudiaethau?

Mae gan ymgeiswyr y drefn Glirio hawl i gael eu hystyried am Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd, £2,000 yn eich blwyddyn gyntaf.

Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Academaidd yn gwobrwyo rhagoriaeth academaidd cyn dechrau yn y Brifysgol. 

Sut mae gwneud cais?

Does dim rhaid i chi wneud cais – os ydych wedi nodi Aberystwyth fel dewis Cadarn drwy UCAS ac os cewch y canlyniadau isod byddwch yn derbyn y wobr yn awtomatig:

  • Graddau AAA yn yr arholiadau Safon Uwch*
  • DDD yn Niploma Estynedig Lefel 3 BTEC
  • 34 pwynt yn y Fagloriaeth Ryngwladol
  • Ystyrir cymwysterau eraill y DU/UE hefyd.

*Mae’n bosibl y derbynnir gradd A yn Niploma Uwch Bagloriaeth Cymru, a fydd yn cynnwys y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, yn lle un o’r graddau Safon Uwch.

Sut fyddaf i’n cael fy nhalu?

Cewch eich talu mewn dau randaliad cyfartal yn syth i’ch cyfrif banc yn ystod eich blwyddyn gyntaf – y cyntaf ddechrau mis Rhagfyr a’r ail ddechrau mis Mawrth.

Mae manylion am fenthyciadau ffioedd myfyrwyr a chymorth cynnal a chadw ar gael gan eich corff cyllid myfyrwyr:

Os ydw i’n cael cynnig - sut ydw i'n gwneud cais am lety?

Rydym yn sicrhau llety i ymgeiswyr clirio. I fod yn gymwys bydd angen i chi sicrhau bod eich cais am lety yn cael ei gyflwyno’n llwyddiannus erbyn 1af Medi 2024, eich bod yn derbyn y cynnig llety a wnaed i chi ac yn cwblhau’r Pecyn Trwydded Llety erbyn y dyddiad cau a nodwyd yn e-bost eich cynnig llety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, ni allwn warantu math penodol o ystafell neu leoliad. Mae telerau ac amodau yn berthnasol, cyfeiriwch at ein Polisi Blaenoriaethau am fanylion pellach.

Pa fath o lety sydd ar gael a beth yw'r gost?

Rydym yn cynnig amrywiaeth helaeth o lety, p’un a ydych awydd ystafell en-suite neu ystafell safonol, llety arlwyedig neu lety hunanarlwyo, mae gennym amrywiaeth o ddewisiadau sy’n addas ar gyfer eich cyllideb a’ch blaenoriaethau. Ar ben hynny, mae cynlluniau talu yn gallu cael eu trefnu i gyd-fynd â derbyn eich arian benthyciad myfyriwr er mwyn eich helpu i gadw trefn ar eich arian!

Am wybodaeth bellach, yn cynnwys teithiau rhithwir o’r gwahanol fathau o lety sydd ar gael, gweler ein tudalen Opsiynau Llety.

Yn ogystal â gwarantu lle mewn llety i fyfyrwyr newydd, pan fyddwch yn byw gyda ni, ni fydd angen poeni am filiau anwadal a dyddiadau dyledus ar hap. Mae Ffioedd Llety’r Brifysgol yn cynnwys gwasanaethau, y rhyngrwyd (a chyswllt diwifr) a lefel uchel o yswiriant cynnwys personol.

Hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr cychwyn mis Fedi 2024:

Os ydw i’n cael cynnig - sut ydw i'n gwneud cais am lety?

Yn fuan ar ôl cadarnhau lle i chi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn cael e-bost gan y Swyddfa Llety yn eich gwahodd i wneud cais am lety prifysgol.

Bydd yr e-bost yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch sut i wneud cais trwy ein Porth Llety ar-lein. Byddwch angen eich rhif UCAS personol 10 digid, eich cyfenw a’ch dyddiad geni i fewngofnodi a gwneud cais am lety. 

Gallwch hefyd edrych ar ein canllaw cam-wrth-gam hwylus ar Sut i Wneud Cais am lety prifysgol.

A fyddai'n derbyn fy newis cyntaf o lety?

Byddwn yn neilltuo lle i chi yn y neuaddau, gan gymryd i ystyriaeth eich blaenoriaethau chi, a byddwn yn ceisio cynnig un o’ch dewisiadau uchaf i chi. Serch hynny, oherwydd bod y neuaddau yn amrywio o ran y nifer o leoedd sydd ynddynt, ac oherwydd bod rhai yn fwy poblogaidd na’i gilydd, ni allwn addo y cewch eich rhoi yn un o’ch dewisiadau uchaf. Os nad oes lle ar gael yn eich dewis cyntaf, byddwn yn ystyried eich dewisiadau eraill yn nhrefn eich blaenoriaethau nes ein bod yn dod o hyd i le gwag i chi.

Noder – mai rhai myfyrwyr yn cael blaenoriaeth ac mae’n bosib y bydd eu llety nhw wedi cael ei glustnodi fel blaenoriaeth uwch na chi, yn unol â’n Polisi Blaenoriaethau.

A oes modd newid neuadd os nad wyf yn hapus gyda’r cynnig?

Os nad ydych yn hapus â’ch cynnig llety, cysylltwch â’r swyddfa llety fel bod modd i aelod o’r tîm edrych i weld a oes lleoedd ar gael yn un o’r neuaddau eraill.