Sut mae gwneud cais am gwrs drwy Glirio?

Dilynwch y camau isod i ddysgu sut mae gwneud cais am gwrs drwy Glirio.

1. Gwnewch eich ymchwil

Edrychwch ar wefan UCAS a gwefannau’r prifysgolion eu hunain i ddod o hyd i gwrs a phrifysgol sy’n addas i chi. Cofiwch ystyried pethau fel pa lety sydd ar gael, sut beth yw’r gwasanaethau cymorth ac a fydd y lleoliad a'r math o brifysgol yn addas i chi.

2. Cysylltwch â'r brifysgol

Unwaith y byddwch wedi cael eich canlyniadau, dylech gysylltu â phrifysgolion yn uniongyrchol i weld a allant wneud cynnig i chi astudio yno. Mae nifer o ffyrdd y gallwch gysylltu â ni yn Aberystwyth:

Byddwn yn asesu eich cymwysterau yn erbyn y cwrs yr hoffech ei astudio ac yn gwneud ein gorau glas i wneud cynnig i chi. Os na allwn gynnig lle i chi ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, byddwn yn trafod dewisiadau eraill a allai fod o ddiddordeb.

3. Cael cynnig

Bydd y brifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi yn rhoi gwybod i chi a allant wneud cynnig i chi.

Er mwyn derbyn y cynnig, bydd angen i chi ychwanegu’r cwrs hwnnw fel eich dewis Clirio ar UCAS Hub. Nodwch, bydd UCAS Hub ar agor o 1pm ar ddiwrnod canlyniadau Lefel A, a dim ond un dewis Clirio y byddwch yn gallu ei ychwanegu.

4. Rhoi trefn ar eich llety

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig Clirio, bydd angen i chi ystyried eich llety. Yn Aberystwyth, rydym yn gwarantu llety i ymgeiswyr Clirio sy'n gwneud cais am eu hystafell erbyn y 1af o Fedi. Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig Clirio, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth am sut i wneud cais.

5. Ymweld â’r Brifysgol

Os nad ydych chi eisoes wedi ymweld â’r brifysgol rydych chi wedi’i dewis trwy Glirio, mi fydd cyfleoedd i wneud yn yr wythnos(au) ar ôl y diwrnod canlyniadau.

Rydym yn cynnal Diwrnodau Ymweld Clirio ar Ddydd Gwener 16eg, Dydd Sadwrn 17eg a Dydd Sul 18fed o Awst, lle cewch gyfle i gwrdd ag academyddion o'ch cwrs, crwydro'r campws a gweld ein llety. Os gallwn wneud cynnig Clirio i chi, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda gwybodaeth am y digwyddiadau hyn. Neu, os hoffech ymweld cyn i chi wneud cais drwy’r broses Glirio, mae croeso i chi ddod draw i weld a yw’r Brifysgol yn addas ar eich cyfer chi.

6. Diweddaru eich cais am gyllid myfyriwr

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am fenthyciad myfyriwr, edrychwch ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i ddysgu mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud. Gall ceisiadau gymryd 6 wythnos i’w prosesu felly mae’n well dechrau’r broses cyn gynted â phosibl.

7. Paratowch ar gyfer cyrraedd y brifysgol

Bydd y brifysgol rydych chi wedi'i dewis yn cysylltu â gwybodaeth am ddigwyddiadau Cofrestru a Chroeso. Dechreuwch edrych ymlaen at anturiaethau newydd!

Mae ein tudalen bwrpasol ar gyfer ymbaratoi i ddod i’r brifysgol yn rhestru popeth y mae angen i chi ei wneud cyn i chi gyrraedd Aberystwyth.