Cyngor i Rieni, Gwarcheidwaid ac Athrawon

Rydym yn gwybod y gall y broses Glirio fod yn gyfnod heriol; os nad yw’r myfyriwr yn cael y canlyniadau yr oeddent wedi’u disgwyl, eu bod wedi newid eu meddwl ynghylch pa gwrs i’w astudio, neu mai dim ond newydd benderfynu gwneud cais i brifysgol y maent, mae ein gwasanaeth Clirio yn Aberystwyth yn ffordd syml i’ch person ifanc / myfyrwyr ddod o hyd i’r lle iddyn nhw.

Gall fyfyrwyr sy’n derbyn eu canlyniadau ar 15 Awst 2024 gael mynediad i’r broses Glirio ar ddiwrnod canlyniadau. Nid yw pob prifysgol a phob cwrs ar gael yn y broses Glirio, felly mae’n werth gwirio beth sydd ar gael a gwneud rhywfaint o ymchwil cyn i’r canlyniadau gyrraedd. Os oes gan eich person ifanc / myfyriwr eu canlyniadau eisoes, gallent ddechrau’r broses unrhyw bryd o’r 5ed o Orffennaf 2024.

Rydym am i’r broses Glirio fod mor hawdd â phosibl i’ch person ifanc / myfyriwr - edrychwch ar ein canllawiau isod am rai awgrymiadau am sut i’w cefnogi.

Sut mae Clirio’n gweithio?

Gall fyfyrwyr ddarganfod a ydynt yn gymwys ar gyfer y broses Glirio drwy fewngofnodi i’w cyfrif Hwb UCAS. Byddant hefyd yn derbyn e-bost gan eu prifysgolion dewis Cadarn a dewis Wrth Gefn yn cadarnhau a ydynt wedi llwyddo i gael lle. Os nad yw’r myfyriwr wedi cael y graddau angenrheidiol ar gyfer eu cynigion Cadarn ac Wrth Gefn, bydd eu Rhif Clirio yn ymddangos ar UCAS Hub yn awtomatig. Y Rhif Clirio yw’r cod a ddefnyddir ganddynt i sicrhau unrhyw gynnig cwrs yr hoffent ei dderbyn yn y dyfodol.

Cyn gynted ag y bydd ganddynt eu Rhif Clirio a’u rhestr o brifysgolion a dewisiadau o gyrsiau, gallant ddechrau ffonio llinellau cymorth Clirio'r prifysgolion. Os gofynnir iddynt wneud cais ar gyfer cwrs a’u bod eisiau derbyn y lle hwnnw, bydd angen iddynt ychwanegu’r cwrs fel eu dewis Clirio ar Hwb UCAS. Dim ond o 1pm ar ddiwrnod canlyniadau y byddan nhw'n gallu gwneud hyn a dim ond un dewis y byddan nhw'n gallu ei roi.

Mae nifer o fyfyrwyr yn barod i ffonio a gweld pa gyrsiau sydd ar gael mewn prifysgolion gwahanol yn gynnar iawn ar ddiwrnod canlyniadau. Gall y broses glirio symud yn gyflym, gyda nifer o’r cyrsiau poblogaidd yn cau yn gynnar yn y broses. Mae paratoi yn allweddol i sicrhau bod y disgyblion yn cael lle ar y cwrs ac yn y brifysgol o’u dewis. Wedi dweud hynny, mae miloedd o gyrsiau yng Nghlirio a dylai eich person ifanc / myfyriwr gymryd yr amser sydd ei angen arnynt, yn hytrach na bysio a theimlo o dan bwysau.

Sut i helpu eich person ifanc/ myfyriwr i baratoi ar gyfer y broses Glirio

Helpwch nhw i ymchwilioDyw hi byth yn rhy gynnar i baratoi, boed yn darganfod mwy am y brifysgol y mae ganddynt ddiddordeb ynddi, neu’n wneud rhestr o’r cynlluniau gradd yr hoffent eu hystyried. Gorau po gyntaf y byddant yn gwybod beth y maent am wneud cais amdano, y cynharaf y gallant ffonio ar fore diwrnod canlyniadau.

Sut y gall myfyrwyr gysylltu â Phrifysgol Aberystwyth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Clirio, ffoniwch ein llinell gymorth arbennig ar 0800 121 4080.

Paratoi ar gyfer yr alwad ffôn

Gall ffonio’r llinell Glirio fod yn frawychus, fodd bynnag, rydym yma i helpu a byddwn yn eu harwain drwy'r alwad. Sicrhewch fod ganddynt eu cymwysterau yn barod o'u blaenau a'u bod yn gwybod yr holl fanylion am y cyrsiau y maent am wneud cais amdanynt. Ni allwch wneud yr alwad ar eu rhan, ond gallwch helpu i sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn barod:

  - eu Rhif Clirio
  - eu rhif UCAS personol
  - manylion eu cymwysterau (gan gynnwys canlyniadau Safon
    Uwch, AS, TGAU a chyfwerth)

  - manylion mewngofnodi ar gyfer Hub UCAS
  - a’u nodiadau am y cyrsiau/prifysgolion

A fydd myfyrwyr yn cael cynnig dros y ffôn pan fyddant yn ffonio?

Byddant - cyhyd â bod y myfyriwr yn bodloni’r gofynion mynediad a bod lleoedd ar gael ar y cwrs, gallant gael cynnig dros y ffôn. Unwaith y caiff cynnig llafar ei wneud, byddwn yna yn e-bostio gyda’r cynnig ysgrifenedig swyddogol.

A all unigolion Clirio gael llety ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Gallant, mae ymgeiswyr Clirio yn cael sicrwydd o lety cyn belled â'u bod yn gwneud cais am le mewn Neuaddau erbyn 1af Medi.

A all myfyrwyr ymweld â'r Brifysgol cyn mis Medi?

Gallant, rydym yn cynnal Diwrnodau Ymweliad Clirio penodedig ar Ddydd Gwener 16, Dydd Sadwrn 17 a Dydd Sul 18 Awst. P’un a yw’ch myfyriwr / person ifanc eisoes wedi derbyn cynnig Clirio ai peidio, byddem wrth ein bodd yn eu croesawu i Aberystwyth i ddysgu mwy am y Brifysgol.