Bywyd Myfyrwyr

Students working together in the Parry-Williams Building located on Penglais Campus.

Yn ogystal ag amgylchiadau dysgu gwych, mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig profiad eithriadol i’w myfyrwyr. 

Mae bwrlwm o fywyd cymdeithasol i’w gael yn Aberystwyth. Mae Undeb y Myfyrwyr yma yn cynnal mwy na 100 o glybiau a chymdeithasau, o ganŵio a gemau cyfrifiadurol i achosion llys ffug a theatr gerddorol. Mae Campws Penglais hefyd yn gartref i un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf Cymru, gyda sinema, theatr a llwyfannau cerddoriaeth fyw yn ogystal ag arddangosfeydd, dosbarthiadau, caffis a bar. 

Profiad unigryw i fyfyrwyr

Yn ôl canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, rydym yn safle 1af yng Nghymru am Fodlonrwydd Myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2023). Yn Aberystwyth, rydym yn ymdrechu i gynnig profiad heb ei ail i fyfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gartref i dros 100 o glybiau a chymdeithasau. Cefnogi ein myfyrwyr yw un o’n prif flaenoriaethau, ac mae tîm ymroddedig y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr yn cynnig y cyngor ymarferol, emosiynol ac ariannol angenrheidiol i'ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.

Dysgwch fwy am ein bywyd campws bywiog.

Cyfleoedd Byd-Eang

Bydd myfyrwyr ar bron bob cynllun gradd yn cael cyfle i astudio neu weithio dramor. Mae llawer o'n cyrsiau'n cynnwys blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys semester neu flwyddyn academaidd gyfan yn astudio yn un o'n prifysgolion partneriaethol neu leoliad profiad gwaith sy’n gysylltiedig â'ch gradd. Bydd ein tîm Cyfleoedd Byd-eang yn eich cynorthwyo i benderfynu beth fydd y dewis gorau i chi. 

Dysgwch fwy am sut y gallwch astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor.

Gyrfaoedd

Mae’ch gyrfa'n dechrau yma 

Mae’ch amser yn y brifysgol yn daith lle y cewch gyfleoedd newydd i ddarganfod ac archwilio, gan ddysgu mwy amdanoch chi'ch hun, eich opsiynau i’r dyfodol, a sut mae'r rhain yn cyd-fynd â'r byd sy'n newid o'ch cwmpas.  Mae rhan o'r daith honno’n ymwneud â dysgu gwybodaeth a sgiliau, meithrin priodweddau, a chael profiadau - ac mae hynny’n golygu manteisio'n llawn ar bob agwedd ar yr hyn y mae bywyd yn y brifysgol yn ei gynnig i chi.   

Cofiwch wneud y gorau o'ch amser pan nad ydych yn astudio drwy gyfoethogi’ch profiad – beth am wirfoddoli i weithio dros achos da neu ymgymryd â swydd ran-amser fel ‘Llysgennad’ y Brifysgol, neu wneud cais am un o'n cynlluniau interniaeth 

Dysgwch fwy am ein Gwasanaethau Gyrfaoedd.