Darpariaeth Gymraeg
Mae’r Ganolfan yn cefnogi adrannau academaidd i ddatblygu modiwlau, cyrsiau a phrosiectau cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr ddewis o ddarpariaeth ac adnoddau wrth astudio drwy’r Gymraeg. Mae gan yr adrannau academaidd ddewis eang o fodiwlau a chynlluniau gradd cyfrwng Cymraeg. Gall myfyrwyr ddewis gwneud pob un o’u modiwlau drwy’r Gymraeg mewn rhai adrannau neu ddewis a dethol rhwng y modiwlau Cymraeg a Saesneg er mwyn astudio yn y ddwy iaith mewn adrannau eraill. Mae myfyrwyr sydd wedi dysgu Cymraeg yn cymryd mantais o’r modiwlau Cymraeg sydd ar gael hefyd gan fod digon o gefnogaeth ar gael i ddefnyddio termau academaidd yn y ddwy iaith. Trefnir cinio Sul yn ystod Wythnos y Glas i fyfyrwyr newydd sy’n medru’r Gymraeg er mwyn rhoi gwybod iddynt am y dewis sydd ar gael a rhoi cyfle iddynt gwrdd â staff sy’n dysgu’n Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am yr hyn a gynigir gan adrannau drwy’r Gymraeg ymwelwch â’u gwefannau neu ewch i’r gronfa ddata modiwlau.