Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg

Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg

Diben y Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg, yw adeiladu ar draddodiad clodwiw y Brifysgol o gefnogi dwyieithrwydd yn y gweithle, a’r ymrwymiadau hyn yn y Cynllun Strategol, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg a ddaeth i rym ar y 1af o fis Ebrill 2018.

Is-gynllun y Gymraeg a’i Diwylliant 2019-2023

Mae’r is-gynllun hwn yn dwyn ynghyd amcanion pedair dogfen strategol, sef Safonau’r Iaith Gymraeg, y Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg, Cynllun Cyfannol Strategol y Gymraeg a’r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog, er mwyn cyflwyno cynllun cyfansawdd a fydd yn galluogi’r Brifysgol i gyflawni ei chenhadaeth ddwyieithog. Pwrpas yr is-gynllun hwn yw amlygu’r prif weithgareddau sy’n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad dwyieithog uchelgeisiol sy’n galluogi ac yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.