Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023
Mae ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023 bellach ar agor. Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ddathlu ethos dwyieithog y Brifysgol.
Ceir dwy wobr i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol:
- Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (i fyfyriwr sydd wedi dangos ymrwymiad neilltuol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg)
- Gwobr Pencampwr y Gymraeg (i fyfyriwr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymraeg yn y Brifysgol a/neu’r gymuned leol).
Ceir hefyd dwy wobr i staff yn y categorïau canlynol:
- Dysgwr Disglair (i aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle)
- Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (i aelod o staff, sy’n siarad Cymraeg neu’n ddi-gymraeg, sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle)
Y dyddiad cau yw 31 Mawrth a cynhelir y gwobrau ym mis Hydref 2023.
Os ydych yn adnabod aelod o staff neu fyfyriwr sy’n addas ar gyfer un o’r gwobrau uchod, cofiwch eu henwebu.
Ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023