Newyddion

26.09.2023 Tystysgrif Sgiliau Iaith

Os hoffech chi wella, neu atgyfnerthu eich sgiliau Cymraeg (ac ennill cymhwyster defnyddiol iawn wrth wneud) mae gennych tan 8 Tachwedd 2023 i gofrestru ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r cwrs yn un rhad ac am ddim, ac mae’r amserlen ddysgu yn un hyblyg, ac yn cynnig sesiynau rhithiol neu wyneb-yn-wyneb. Caiff y sesiynau eu dysgu gan Adran y Gymraeg y Brifysgol. Cysylltwch â sgiliau@aber.ac.uk am fwy o fanylion, neu cofrestrwch arlein yma.

12.09.2023 Sesiynau Sgwrsio Cymraeg am ddim ar gyfer Staff

Os ydych chi yn dysgu Cymraeg ac os oes diddordeb gyda chi mewn mynychu Sesiwn Sgwrsio  i ymarfer sgwrsio yn Gymraeg  mae’r canlynol ar gael i chi: 

Canolfan y Celfyddydau (bar top) – pob lefel 

1 – 1.30 bob yn ail ddydd Iau yn dechrau 28/9 

Cinio Cymraeg yn y Neuadd Fwyd – pob lefel 

12.30 dydd Mercher bob 3 wythnos yn dechrau ar 13 Medi. 

Zoom – lefel Sylfaen 2/Canolradd 

11.30 – 12 dydd Mercher (dechrau 13/9) 

Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.

Zoom – lefel Mynediad 2 / Sylfaen 1 

1.30-2 – dydd Mawrth (dechrau 12/9) 

Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.

Zoom – lefel Mynediad 1 

12-12.30 dydd Mercher (dechrau 13/9) 

Cysylltwch gydag Olwen Morus (olm25@aber.ac.uk) i dderbyn y ddolen.

30.08.2023 Darlith 150 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Darlith 150 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Yr Athro Michael Cronin, Coleg y Drindod, Dulyn

Dyddiad: 06/09/23
Amser: 16:30-17:30
Lleoliad: Stiwdio, Canolfan y Celfyddydau

Deiliad cadair enwog ‘1776’ ac Athro Ffrangeg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yw Michael Cronin. Mae’n awdur dros ddwsin o lyfrau a thros 150 o erthyglau a phenodau mewn cyhoeddiadau ysgolheigaidd. Cyfieithwyd ei waith i dros 15 o ieithoedd, ac ymhlith ei ddiddordebau ymchwil  helaeth, ceir cyfieithu a theori cyfieithu, llenyddiaeth teithio ac eco-feirniadaeth.

Fel siaradwr Gwyddeleg mae wedi ymddiddori yn y cysylltiad rhwng yr amgylchfyd ac ieithoedd lleiafrifol. Yn ei lyfr dwyieithog An Ghaeilge agus an Éiceolaíocht/ Irish and Ecology (2019), mae’n hawlio mai cwestiwn ecolegol yw’r cwestiwn iaith yn ei hanfod.

Yn y ddarlith hon bydd yn trafod pwysigrwydd ieithoedd fel y Gymraeg a’r Gwyddeleg a’r berthynas rhwng ieithoedd a’i gilydd o ran y dyfodol.

Dyma gyfle arbennig iawn i gael croesawu’r Athro Cronin i Gymru a chlywed ei ddysgeidiaeth a’i holi.

Am fanylion pellach, cysylltwch â ccgc@aber.ac.uk

1.08.2023 Cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd i staff yn dechrau ym mis Medi 2023

Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg? Bydd nifer o gyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ym mis Medi. Gweler manylion y cyrsiau isod:

 Cymraeg Gwaith +

Oes diddordeb gyda chi mewn gallu darlithio neu gynnal seminarau neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg?  Ydych chi’n siarad Cymraeg ar lefel Uwch +?  Mae’r cwrs o fis Medi ’23 tan fis Gorffennaf ’24 ar gyfer staff sy’n dysgu i’w galluogi i godi hyder a gwella patrymau iaith er mwyn gallu darlithio neu gynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi ’24 ymlaen. Bydd hi’n bosib teilwra’r cwrs i’ch anghenion chi.

Cwrs Codi Hyder

Ydych chi wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ond heb ei defnyddio yn ddiweddar? Oes  gyda chi rhywfaint o Gymraeg yn barod ond heb yr hyder i’w defnyddio yn y gwaith, mae cwrs newydd wythnosol ‘Codi Hyder’ yn dechrau ym mis Medi ar gyfer staff.  Bydd y sesiynau dros Zoom rhwng 1-2pm ar ddydd Llun a dydd Gwener.

Cwrs Dwys Lefel Mynediad 1

Bydd cwrs dwys 60 awr yn cael ei gynnig i staff sy’n ddechreuwyr o 4 – 8 Medi a'r 8 -12 Ionawr.  Bydd y dosbarth dros Zoom rhwng 9.30-4.30 gyda digon o egwyl yn ystod y dydd.  Mae’n gyfle gwych i chi ddechrau ar y siwrne dysgu Cymraeg neu os nag ydych chi yn gallu mynychu gwersi wythnosol.  Noder hefyd mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael ar y cwrs felly cysylltwch cyn gynted â phosib os am gofrestru ar y cwrs.

Mae’r cyrsiau am ddim.  Gofynnir i bob aelod staff holi caniatâd eu rheolwr llinell cyn cofrestru. Noder mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.  Am fanylion pellach ynglŷn â’r cyrsiau cysylltwch gydag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk    

14.07.2023 Cyfle i gofrestru gyda chynllun Cymraeg Gwaith+ yn cychwyn fis Medi 2023

Oes diddordeb gyda chi mewn gallu darlithio, cynnal seminarau neu farcio drwy gyfrwng y Gymraeg?  Ydych chi’n siarad Cymraeg ar lefel Uwch +?

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu cynllun Cymraeg Gwaith+ ar gyfer staff addysgu.

Bwriad y cynllun yw codi hyder a gwella patrymau iaith staff addysgu i’w galluogi i ddarlithio neu gynnal seminarau drwy gyfrwng y Gymraeg o fis Medi 2024 ymlaen.

Mae’r cwrs o fis Medi 2023 tan fis Gorffennaf 2024 a bydd wedi’i deilwra i’ch anghenion chi.

Os hoffech sgwrs pellach am y cynllun neu am fwy o fanylion, cysylltwch gydag Olwen Morus, olm25@aber.ac.uk

Nifer cyfyngedig o lefydd fydd ar gael ar y cynllun, felly os oes diddordeb gyda chi, ewch ati i gysylltu a chofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda.

13.07.2023 Cwrs Cymorth Cyntaf mewn Argyfwng yn y Gweithle (EFAW) ar gyfer staff (21 Medi 2023)

Mae’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd bellach yn cynnig y cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhelir y cwrs ar 21 Medi 2023.

E-bostiwch hasstaff@aber.ac.uk i archebu lle.

6.07.2023 Ar Gered: Llyn Craigypistyll Taith Gerdded Gymraeg i Bawb 15.07.2023

Ymunwch â grŵp cerdded Cered Ar Gered am daith 8km i darddiad yr afon Leri a mwy.

Darganfyddwch lynnoedd cudd Ceredigion mewn grŵp Cymraeg sy’n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg o bob gallu.

Cyfarfod am: 10yb Dydd Sadwrn 15fed Gorffennaf ym maes parcio Llyn Pendam.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: steffan.rees@ceredigion.gov.uk

1.03.2023 Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023

Mae'r ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023 bellach ar agor!

Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ddathlu ethos dwyieithog y Brifysgol.

Ceir dwy wobr i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol:

  • Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (i fyfyriwr sydd wedi dangos ymrwymiad neilltuol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg)
  • Gwobr Pencampwr y Gymraeg (i fyfyriwr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymraeg yn y Brifysgol a/neu’r gymuned leol).

Ceir hefyd dwy wobr i staff yn y categorïau canlynol:

  • Dysgwr Disglair (i aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle)
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (i aelod o staff, sy’n siarad Cymraeg neu’n ddi-gymraeg, sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle)

Y dyddiad cau yw 31 Mawrth a cynhelir y gwobrau ym mis Hydref 2023.

Os ydych yn adnabod aelod o staff neu fyfyriwr sy’n addas ar gyfer un o’r gwobrau uchod, cofiwch eu henwebu.

Ffurflen enwebu ar gyfer Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2023

15.02.2023 Cwrs Dysgu Cymraeg am ddim ar gyfer Staff

Cwrs Byr Codi Hyder i Ddefnyddio’r Gymraeg

Oes gennych chi ychydig o Gymraeg, ond heb yr hyder i'w defnyddio? Mae tîm Dysgu Cymraeg wedi trefnu Cwrs byr 5 wythnos i roi hwb i’ch sgiliau a’ch hyder.   Rhagwelir y bydd cwrs ar lefel Sylfaen ond bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer lefel iaith y dosbarth.   Bydd y cwrs dros Zoom ar ddydd Llun (1-2pm) gan ddechrau ar 27 Chwefror.  Mae’r cwrs am ddim.  Gofynnir i bob aelod staff holi caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru.  Am fanylion pellach cysylltwch gydag Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk

Cliciwch y ddolen i gofrestru: Cwrs Sylfaen Rhan 1

15.02.2023 Asesiadau yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (Semester 2 2022-23)

Asesiadau yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (Semester 2 2022-23)

Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig a sefyll arholiad yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (ac eithrio modiwlau lle mae'r iaith yn cael ei hasesu).

Os yw asesiadau eich adran sydd ar amserlen y Brifysgol ym mis Mai a mis Mehefin 2023 yn cynnwys:

  • arholiad ffurfiol
  • asesiad ar-lein sydd â chyfnod cyflwyno cyfyngedig (3 diwrnod neu lai)

Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk erbyn 17 Mawrth 2023 os hoffech dderbyn papur arholiad yn Gymraeg ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg yn Semester 2. Nodwch y manylion canlynol:

  • eich enw
  • eich adran
  • teitl a chyfeirnod y modiwl

Does dim angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu sefyll arholiad yn Saesneg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.  Byddwch chi’n derbyn y papur yn Saesneg yn awtomatig. Hefyd, nid oes raid i chi roi gwybod inni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.

24.06.22 Lansio Sesiynau Sgwrsio Cymraeg ar gyfer Staff

Dewch draw i Far y Theatr, yng Nghanolfan y Celfyddydau ddydd Gwener, 24 Mehefin am 12.30 i glywed mwy am y sesiynau sgwrsio ar gyfer pob lefel Cymraeg sydd wedi cael eu trefnu gan Dîm Dysgu Cymraeg.  Bydd pecyn o nwyddau ar gael am ddim i bawb sy’n galw heibio!  Am fwy o fanylion cysylltwch gydag Olwen: olm25@aber.ac.uk, neu ewch i'r wefan: https://www.aber.ac.uk/cy/learn-welsh/

01.04.2022 Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Cyrsiau Dysgu Cymraeg

Cyrsiau Cymraeg Gwaith yn dechrau fis Mai

Awydd datblygu eich sgiliau yn y Gymraeg ar gyfer y gweithle? Bydd dosbarthiadau Cymraeg Gwaith yn cael eu cynnal o ddechrau Mai hyd ddiwedd Mawrth 2023. 

Bydd y cyrsiau hyn ar amrywiaeth o lefelau o ddechreuwyr hyd lefel Uwch 1 yn cael eu cynnal ar Zoom gyda chyfleoedd i gwrdd wyneb yn wyneb ar y campws ar adegau. Bydd cyrsiau hunan-astudio ar-lein hefyd ar lefel Mynediad a Sylfaen.

Diddordeb?

Os oes diddordeb gennych gofrestru neu drafod cyrsiau posib arall, galwch heibio stondin Dysgu Cymraeg ddydd Iau, 5 Mai (11.45-13.30) yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu cysylltwch ag Olwen Morus – olm25@aber.ac.uk 

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Dysgu Cymraeg

Bydd angen i chi gael caniatâd rheolwr llinell cyn cofrestru. 

Ariennir y cyrsiau Cymraeg Gwaith gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac maen nhw’n rhad ac am ddim. 

Cwrs Haf Dwys  

Cofiwch hefyd am y Cwrs Haf Dwys, 1-26 Awst 2022. Cynhelir dosbarthiadau ar bob lefel fydd yn cael eu cynnal dros Zoom.

Bydd y cwrs yn llenwi’n gyflym, felly os oes diddordeb gyda chi, ewch ati i gofrestru cyn gynted ag sy’n bosibl os gwelwch yn dda. 

Mae rhagor o wybodaeth a manylion cofrestru yma

Cwrs Cymraeg Proffesiynol

Yn ogystal, cynhelir Cwrs Cymraeg Proffesiynol am un wythnos ar 8-12 Awst 2022 – cyfle da i siaradwyr rhugl i ymarfer a gwella eu Cymraeg ar gyfer sefyllfaoedd proffesiynol. 

Gallwch chi gofrestru am 4 wythnos o ddysgu dwys, neu hanner cyntaf neu hanner olaf y cwrs. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw’r 24 Mehefin 2022.

Bydd y Brifysgol yn barod i dalu’r ffi drosoch. Anfonwch neges at dysgucymraeg@aber.ac.uk am ragor o fanylion.

01.03.22 Enwebiadau ar gyfer Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2022


Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg, ac i ymhyfrydu yn ethos dwyieithog y Brifysgol.

Ceir dwy wobr i staff yn y categorïau canlynol:

  • Dysgwr Disglair (i aelod o staff sydd yn dysgu’r Gymraeg i’w defnyddio yn y gweithle)
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (i aelod o staff, sy’n siarad Cymraeg neu’n ddi-gymraeg, sy’n gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle)

Ceir dwy wobr hefyd i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol:

  • Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (i fyfyriwr sydd wedi dangos ymrwymiad neilltuol i astudio o leiaf 40 credyd trwy’r Gymraeg)
  • Gwobr Pencampwr y Gymraeg (i fyfyriwr sy’n gwneud cyfraniad eithriadol i’r Gymraeg yn y Brifysgol a/neu’r gymuned leol).

Y dyddiad cau yw 31 Mawrth a cheir ffurflen enwebu ar dudalen gwe Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg, gweler y ddolen isod. 

https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/welsh-language-awards/ffurflen-enwebu/

Os ydych yn adnabod aelod o staff neu fyfyriwr sy’n addas ar gyfer un o’r gwobrau uchod, cofiwch eu henwebu.

22.02.22 Hyfforddiant Deall Gofynion Safonau'r Gymraeg

22.02.22  Hyfforddiant Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cynnal sesiwn hyfforddiant byr  ‘Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg’.  Cynhelir y sesiwn hyfforddi 60 munud dros Microsoft Teams.

Mae croeso i holl staff ond yn arbennig aelodau newydd o staff, staff sy’n gyfrifol am wasanaethau rheng flaen, neu unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb yn y maes.

Cynhelir y sesiwn cyfrwng Cymraeg am 9:30am a’r sesiwn cyfrwng Saesneg am 11.30am.  Cynhelir yr hyfforddiant ar y dyddiau canlynol:

  • 28 Chwefror 2022
  • 4 Mai 2022
  • 12 Gorffennaf 2022

Cofrestrwch yma  Sesiynau DPP (aber.ac.uk)

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk neu ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/

07.12.21 Diwrnod Hawliau'r Gymraeg

07.12.21 Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Ddydd Mawrth nesa’, 7 Rhagfyr bydd y Brifysgol  yn ymuno â sefydliadau ar draws Cymru i gefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg.

Galwch heibio i'r stondin wybodaeth yn Nerbynfa IBERS, Campws Penglais rhwng 10.30am a 2.30pm am sgwrs ac i holi unrhyw gwestiynau. Bydd taflenni gwybodaeth ar gael yn Nhamed Da yn ystod y dydd.

Bydd y Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg hefyd yn cynnal sesiwn hyfforddiant byr ‘Deall Gofynion Safonau’r Gymraeg’.

Mae croeso i holl staff ond yn arbennig aelodau newydd o staff, staff sy’n gyfrifol am wasanaethau rheng flaen, neu unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb yn y maes.

Cynhelir y sesiwn cyfrwng Cymraeg am 9:45am a’r sesiwn cyfrwng Saesneg am 11am. Cofrestrwch yma https://stafftraining.aber.ac.uk

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk neu ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/cgg/

01.11.21 Neges Bwysig i Fyfyrwyr

1.11.21 Neges Bwysig i Fyfyrwyr - Papurau arholiad yn Gymraeg (Modiwlau cyfrwng Saesneg)

Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno gwaith ysgrifenedig a sefyll arholiad yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg (ac eithrio modiwlau lle mae'r iaith yn cael ei hasesu).

Eleni mae gan nifer o adrannau drefniadau asesu amgen. Os yw eich modiwl Semester 1 yn cynnwys:

  • arholiad ffurfiol
  • arholiad ar-lein sydd â chyfnod cyflwyno cyfyngedig (3 diwrnod neu lai)

Cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk erbyn 8 Tachwedd 2021 os hoffech dderbyn papur arholiad yn Gymraeg ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg yn Semester 1. Nodwch y manylion canlynol:

  • Eich Enw
  • Eich Adran
  • Teitl a chyfeirnod y modiwl

Does dim angen i chi roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu sefyll arholiad yn Saesneg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.  Byddwch chi’n derbyn y papur yn Saesneg yn awtomatig. Hefyd, nid oes raid i chi roi gwybod inni o flaen llaw os ydych yn dymuno cyflwyno aseiniadau yn Gymraeg ar fodiwl cyfrwng Saesneg.

 

20.10.21 Gwobrau Hybu'r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021

Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth 2021

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg. 

Cyhoeddwyd mai enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am 2021 yw Kate Wright, Annette Edwards, Llŷr Tomos ac Elen Roach ar ôl iddynt gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr y Brifysgol. 

Yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf, yn fyfyrwyr ac yn staff, dewiswyd y pedwar enillydd ar gyfer y gwobrau canlynol: 

  • Dysgwr Disglair (Staff) – Kate Wright
  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Annette Edwards
  • Astudio trwy’r Gymraeg - Llŷr Tomos
  • Pencampwr y Gymraeg (Myfyriwr) – Elen Roach


Bydd pob un o’r enillwyr yn derbyn englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood neu gan y Darlithydd Eurig 
Salisbury, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol.  

04.10.21 Arolwg Defnydd Iaith

Arolwg Defnydd Iaith Staff Prifysgol Aberystwyth 2021

CYFLE I ENNILL TALEB £30 I GANOLFAN Y CELFYDDYDAU

Mae arnom angen eich adborth a’ch syniadau!  Mae eich llais yn bwysig.

Rwy’n ysgrifennu atoch i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein sy’n mesur y defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Fel sefydliad dwyieithog, rydym yn awyddus i gefnogi staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Credwn fod hyn yn llesol nid yn unig o safbwynt gweithgareddau mewnol ond hefyd er mwyn cynnig profiad cadarnhaol i staff, myfyrwyr a’r gymuned yn ehangach.

Bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi darlun defnyddiol o’r arferion iaith ar hyn o bryd, ac yn sail ar gyfer gweithgareddau i hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ac i ganfod anghenion hyfforddi a chyfleoedd datblygu.

Mae'r holiadur yn agored i bawb, yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, a bydd eich atebion yn gwbl ddienw.

Dylai’r arolwg gymryd tua 5-10 munud i’w gwblhau. Cliciwch ar y ddolen isod i gwblhau’r arolwg erbyn 30 Hydref 2021.

Arolwg Cymraeg

Arolwg Saesneg

Ar ôl cwblhau’r arolwg bydd cyfle i chi ennill gwobr, sef taleb sy’n werth £30 i’w gwario yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Gan ddiolch ymlaen llaw i chi am fod yn barod i gymryd rhan.