Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn ffynnu wrth i’r Brifysgol fuddsoddi’n fewnol ynddi, a manteisio i’r eithaf ar y cynlluniau cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynyddu’r cyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy’r Gymraeg. Sefydliad cenedlaethol yw'r Coleg Cymraeg sy'n chwarae rhan allweddol mewn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Mae gan y Coleg ganghennau ymhob un o brifysgolion Cymru lle cynigir darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, lleolir y Gangen o dan adain Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg. 

Y Porth

Mae gwefan Y Porth yn hwyluso cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ac mae’r Brifysgol yn cynnig ac yn manteisio ar fodiwlau cydweithredol. Ceir nifer o adnoddau agored a chyfyngedig ar y wefan hon ac fe’i defnyddir gan fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg.