Pwyllgor Cangen y Brifysgol o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwaith Pwyllgor y Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw arolygu a datblygu darpariaethau academaidd a geir yn Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor yn monitro ac yn adolygu'n flynyddol y ddarpariaeth a geir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn adrodd am faterion cynllunio ac adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg i gyrff cynllunio'r Brifysgol, a thrwyddynt hwy, i'r Cyngor.

Aelodau:

  • pob aelod o'r staff sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu
  • staff academaidd perthynol sy'n cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg
  • deiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • cynrychiolwyr y myfyrwyr gan gynnwys Llywydd UMCA

Cadeirydd: Jonathan Fry (jof36@aber.ac.uk

Ysgrifennydd: Dr Tamsin Davies, Swyddog y Gangen (ted@aber.ac.uk) / Mel Owen, Swyddog y Gangen (meo14@aber.ac.uk)