Sesiynau Astudio ac Ysgrifennu yn Gymraeg

Croeso i 'Astudio ac Ysgrifennu yn Gymraeg'

Dysgir y cwrs hwn drwy gyfres o sesiynau ymarferol.
Bydd yn datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd cyfrwng Cymraeg ynghyd â'ch sgiliau astudio.
Dyddiad
Amser Lleoliad Pwnc
4 Hydref 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Astudio yn Gymraeg 1: Beth yw astudio yn ddwyieithog neu drwy’r Gymraeg yn y Brifysgol?
Dyma sesiwn sy’n esbonio beth yw natur modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn egluro eich hawliau i ddarpariaeth Gymraeg ar lefel addysg uwch.  Mae’r trefniadau yn gallu bod yn eithaf gwahanol i’r ddarpariaeth yn yr ysgol, coleg neu brifysgolion eraill ac mae’r sesiwn yn addas i unrhyw un sy’n newydd i’r brifysgol (israddedig neu uwchraddedig) neu unrhyw un sydd ddim yn siŵr beth yw eu hawliau o ran addysg Gymraeg.  Bydd yn edrych ar y math o fodiwlau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, yr hawl i gyflwyno gwaith yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg, cefnogaeth anffurfiol, adnoddau Cymraeg, cael papurau arholiad yn Gymraeg a pholisi’r Brifysgol ar gyfieithu gwaith myfyrwyr.
11 Hydref 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 1: Gwella eich traethodau 1 - cychwyn arni
Dyma sesiwn sy’n edrych ar ddisgwyliadau ar gyfer traethodau yn Gymraeg yn y Brifysgol.  Bydd hefyd yn edrych ar adnoddau Cymraeg sydd ar gael, cynllunio a strwythur.  Does dim ots os ydych chi’n newydd i’r Brifysgol neu’n hen law sydd eisiau gwella eich marciau, bydd y sesiwn hon yn addas ichi.
18 Hydref 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 2: Gwella eich traethodau 2 - cyflwyniadau, paragraffau a chasgliadau
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut i ysgrifennu cyflwyniadau, paragraffau a chasgliadau cydlynus, sy’n gwneud eich traethodau yn fwy darllenadwy ac yn ennill marciau uwch!  Bydd hefyd yn edrych ar gamgymeriadau cyffredin a sut i’w hosgoi.
1 Tachwedd 2023
13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 3: Gwella eich traethodau 3 - ysgrifennu Cymraeg academaidd 1
Bydd y sesiwn hon yn ganolbwyntio ar ysgrifennu Cymraeg academaidd graenus.  Byddwn ni’n trafod cywair, termau ac adnoddau i’ch helpu ysgrifennu yn gywir
6 Tachwedd 2023 12.00-13.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Astudio yn Gymraeg 2: Dysgu'n well wrth astudio'n ddwyieithog neu yn Gymraeg


Dyma sesiwn sy’n edrych ar astudio’n effeithiol, gan gynnwys tips ar gyfer ysgrifennu nodiadau mewn modiwlau sy’n rhannol yn Gymraeg a defnyddio deunydd Saesneg wrth ysgrifennu yn Gymraeg
8 Tachwedd 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 4: Gwella eich traethodau 4 - ysgrifennu Cymraeg academaidd 2
Bydd y sesiwn hon yn ganolbwyntio ar ysgrifennu Cymraeg academaidd graenus eto.  Y tro hwn byddwn ni’n edrych ar sut i osgoi dylanwad y Saesneg wrth ysgrifennu yn Gymraeg a fydd yn gwneud eich gwaith yn fwy darllenadwy a phroffesiynol a sut i osgoi camgymeriadau bach er mwyn rhoi sglein ar eich gwaith.
15 Tachwedd 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 5: Aralleirio, dyfynnu a chyfeirnodi  
Dyma sesiwn sy’n ymdrin ag aralleirio o’r Saesneg i’r Gymraeg a’r Gymraeg i’r Gymraeg mewn ysgrifennu academaidd.  Bydd hefyd yn edrych ar sut i gynnwys dyfyniadau yn eich gwaith, y fformatau gwahanol ar gyfer cyfeirnodi a ble i gynnwys cyfeiriadau yn eich gwaith.
22 Tachwedd 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 6: Llyfryddiaethau a chyfeirnodi
Dyma sesiwn sy’n edrych ar y fformatau gwahanol ar gyfer llunio llyfryddiaeth neu rhestr gyfeirnodau, ble mae angen cynnwys llyfryddiaeth a sut i lunio un yn Gymraeg.
29 Tachwedd 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 7: Golygu eich gwaith ysgrifenedig
Dyma sesiwn i’ch helpu i olygu eich gwaith – gwella’r mynegiant, sicrhau bod y ddadl yn gryf gyda digon o dystiolaeth a sicrhau bod yr fformat a’r iaith yn gywir.
6 Rhagfyr 2023 13.00-14.00
NEU
Ystafell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 0.25, Cledwyn
Ysgrifennu yn Gymraeg 8: Adolygu a sgiliau arholiadau
Bydd y sesiwn hon yn edrych ar wahanol ddulliau o adolygu, llunio amserlen adolygu, a thechnegau i ddilyn mewn arholiadau er mwyn eich helpu i ennill marciau uwch yn eich arholiadau.
Canlyniadau Dysgu: wedi cwblhau'r cwrs i gyd dylai'r myfyrwyr fedru:
  • Adnabod gofynion aseiniadau academaidd
  • Cyfeirnodi yn briodol
  • Deall natur ysgrifennu academaidd yn Gymraeg ac ysgrifennu aseiniadau clir a strwythuredig
  • Defnyddio gwahanol adnoddau terminolegol
 
Dysgir y seminarau hyn drwy'r Gymraeg.  Croeso i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Tamsin Davies, Tiwtor Sgiliau Academaidd, ar sgiliau@aber.ac.uk