Tystysgrif Sgiliau Iaith
Y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi datblygu Tystysgrif Sgiliau Iaith er mwyn galluogi myfyrwyr ac eraill i ddangos tystiolaeth o’u sgiliau Cymraeg ymarferol ac i roi mantais iddynt ym myd gwaith.
Mae cyfle i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth astudio’r cymhwyster yn rhad ac am ddim, a bydd yn sicr o dalu ar ei ganfed fel prawf o’ch gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg pan fyddwch yn chwilio am swydd neu’n ceisio datblygu eich gyrfa. Mae llu o gyflogwyr mewn ystod eang o feysydd gwaith yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn cydnabod gwerth y Dystysgrif.
Ers i’r Dystysgrif gael ei chyflwyno yn 2013 mae wedi hen ennill ei phlwyf, a bellach mae cannoedd yn ymgeisio amdani’n flynyddol ledled Cymru. Rydym yn awyddus iawn yma ym Mhrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod cynifer ohonoch â phosibl yn cael y cyfle i sefyll y Dystysgrif er mwyn ichi allu cystadlu â’ch cyfoedion a chael hwb ychwanegol yn y farchnad waith.
Beth yw diben y Dystysgrif?
Nod y Dystysgrif yw sefydlu ffordd gyffredin, gydnabyddedig o ddangos sgiliau ieithyddol myfyrwyr, a galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Beth sydd angen imi ei wneud a pha gymorth gaf fi?
Er mwyn ennill y Dystysgrif rhaid i fyfyrwyr sefyll dau asesiad, sef cyflwyniad llafar byr ac arholiad ysgrifenedig. Cynhelir sesiynau paratoi anffurfiol trwy gydol y flwyddyn a bydd cefnogaeth unigol ar gael hefyd gan diwtor y Dystysgrif. Mae mynychu'r sesiynau yn gyfle gwych i chi sicrhau eich bod yn paratoi'n drylwyr er mwyn gwneud eich gorau, a byddant o fudd i chi hefyd wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Nod y ddarpariaeth yw bod mor hyblyg â phosibl, fel bod modd ichi fynychu’r sesiynau ochr yn ochr â’ch astudiaethau gradd neu’ch swydd.
Eisiau gwybod mwy?
Os hoffech ddysgu rhagor am y Dystysgrif yn Aberystwyth, e-bostiwch sgiliau@aber.ac.uk. Mae adnoddau cefnogol hefyd ar gael ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy fynd i http://sgiliauiaith.colegcymraeg.ac.uk/cy/hafan