Cyflwyno asesiadau yn Gymraeg
Yn unol â pholisi’r Brifysgol a amlinellir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (cymal 3.2.27) gall myfyrwyr gyflwyno gwaith i’w asesu a sefyll arholiad yn ddiofyn yn Gymraeg.
3.2.27. Mae gan Brifysgol Aberystwyth bolisi dwyieithrwydd ar gyfer pob asesiad ysgrifenedig, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs ac arholiadau. Caiff myfyrwyr, p’un ai Cymraeg neu Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw, ddewis cyflwyno sgriptiau arholiadau ac asesiadau gwaith cwrs naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg (ac eithrio asesiadau lle mae asesu iaith yn rhan o ddeilliannau dysgu’r modiwl). Bydd myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu harholi yn yr iaith honno; mae gan fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau drwy gyfrwng y Saesneg hawl i gael eu hasesu yn Gymraeg. Fodd bynnag, er mwyn caniatáu amser i baratoi papurau arholiad Cymraeg ar gyfer modiwlau cyfrwng Saesneg, gofynnir i fyfyrwyr hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn 1af Tachwedd ar gyfer arholiadau Semester 1, ac 1af Mawrth ar gyfer arholiadau Semester 2.
3.2.28. Mae’r Brifysgol wedi sefydlu polisi ar gyfieithu asesiadau er mwyn sicrhau uniondeb y broses (h.y. na fydd myfyrwyr yn cael mantais nac anfantais annheg o ran marcio gwaith wedi’i gyfieithu). Nid oes disgwyl i fyfyrwyr sydd am gyflwyno sgriptiau arholiadau neu asesiadau gwaith cwrs yn Gymraeg ar fodiwlau cyfrwng Saesneg roi gwybod am hyn i adrannau academaidd ymlaen llaw. Os yw myfyrwyr yn gofyn am asesiadau llafar trwy gyfrwng y Gymraeg, dylid eu hasesu yn Gymraeg lle bynnag y bo modd, heb gyfieithu ar y pryd. Fel arall, dylai adrannau ymgynghori â Chanolfan Gwasanaethau'r Gymraeg fesul achos. Os darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, byddai'n ddefnyddiol rhoi sgript neu grynodeb ysgrifenedig i'r cyfieithydd ar y pryd ymlaen llaw.