Safonau'r Gymraeg
Mae Prifysgolion yng Nghymru yn ddarostyngedig i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (rhif 6) 2017 a sefydlwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae Safonau’r Gymraeg yn egluro sut y mae disgwyl i’r Brifysgol ddarparu gwasanaethau penodol drwy gyfrwng y Gymraeg gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.