Ffurflen Gwyno

Os ydych o’r farn bod Prifysgol Aberystwyth wedi torri amodau ei Safonau Iaith gallwch nodi eich cwyn ar y ffurflen hon. Mae gofyn i chi ddarparu eich manylion personol ac i ddisgrifio’r gŵyn.

 Gallwch wneud cwyn i Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg

  • am fethiant Prifysgol Aberystwyth i gydymffurfio â Safon Iaith Gymraeg 
  • os ydych chi’n teimlo bod rhywun wedi ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg yn y Brifysgol.

Yn dilyn derbyn eich cwyn bydd Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn cysylltu’n ôl â chi cyn pen 5 diwrnod gwaith er mwyn cydnabod ei derbyn.

Ffurflen Gwyno

Manylion eich cwyn

Dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl yn yr adran hon.

Noder: Os oes gennych lun neu ddogfen fel tystiolaeth gallwch ei uwch-lwytho yng ngham nesaf y ffurflen.

A ydych eisiau uwchlwytho llun neu ddogfen fel tystiolaeth?
A ydych wedi tynnu sylw yr adran neu wasanaeth at y mater hwn?

Manylion yr achwynydd

Dim ond pan fydd hynny’n angenrheidiol y bydd Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn rhannu (yn fewnol yn PA) wybodaeth am achwynyddion. Gall yr amgylchiadau hyn gynnwys rhannu’r wybodaeth a gyflwynir gennych gyda’r adran neu’r gwasanaeth a dorrodd amodau’r Safonau. Wrth ichi ddarparu eich manylion personol uchod, rydych yn cytuno i’r Brifysgol brosesu eich manylion personol ar gyfer y pwrpas hwn. Cofnodir pob cwyn ac fe’i cedwir am dair blynedd. Cyflwynir cofnod o bob cwyn (ar ffurf dienw) fel rhan o adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg.