Arweiniad CAM wrth GAM i Sicrhau Llety Israddedig
- Gwneud cais i PA drwy UCAS – cael eich Rhif Adnabod Personol 10 digid
- PA yn rhoi cynnig Diamod neu Amodol i chi - Gwirio Tracio UCAS
- Dewiswch PA fel eich dewis Cadarn neu Wrth Gefn (dewis cyntaf / ail ddewis)
- O 1 Ebrill ymlaen – os ydych chi wedi rhoi PA fel dewis Cadarn neu Wrth Gefn, cewch wahoddiad i wneud cais ar-lein am lety (caiff y llythyr ei anfon i’r cyfeiriad cartref)
- Gwneud cais ar-lein – Ceisiadau’n agor ar 1 Ebrill. Gwnewch gais erbyn 1 Awst i sicrhau llety
- Diwrnod y Canlyniadau - Bydd Tracio UCAS yn dangos cadarnhad o'ch cynnig o le
- Caiff eich cynnig electronig o lety ei anfon atoch yn awtomatig – gwiriwch eich e-bost yn rheolaidd gan gynnwys eich e-bost sothach
- Cychwyn eich cyfrif e-bost PA i allu derbyn eich Cynnig Llety – mis Gorffennaf ymlaen i UF (Cadarn Diamod)
- 23-25 Medi, Penwythnos y Glas – Symud i’ch ystafell
Allwedd:
PA = Prifisgol Aberystwyth
CF = Cadarn Amodol
CI = Dewis wrth gefn Amodol
UF = Cadarn Diamod
UI = Dewis wrth gefn Diamod