Canllawiau i Rieni

A chithau’n rhiant, yn warcheidwad neu’n rhywun â chyfrifoldebau gofal, mae’r adeg pan fydd eich plentyn neu’ch gward yn dechrau yn y brifysgol yn gallu bod yn gyffrous ond yn un sy’n peri pryder hefyd. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau eu bod yn pontio’n ddidrafferth i fywyd prifysgol ac i fyw’n annibynnol.

Cofiwch ein bod yn cyfrif eich plentyn/gward yn oedolyn ac felly, oherwydd y rheolau diogelu data, ni allwn drafod rhywbeth amdanynt â chi heb gael eu caniatâd i wneud hynny. Ni allwn drafod unrhyw fanylion penodol megis eu hystafell, eu fflat na’u cyfeiriad postio, nac ychwaith hyd yn oed gadarnhau a ydynt yn fyfyriwr yma ai peidio. Felly os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni; ond cofiwch fod cyfyngiadau arnom o ran yr hyn y cawn ei drafod â chi.

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen diogelu data.

Egluro ein termau

Dyma restr o’r prif dermau a ddefnyddir yn aml wrth wneud cais am lety, cyn bod eich plentyn/gward yn fyfyriwr, yn ystod eu hastudiaethau, ac wedyn:

  • Cynnig amodol – mae’ch plentyn/gward wedi cael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol ar yr amod eu bod yn bodloni’r gofynion a roddwyd (sef canlyniadau arholiadau gan amlaf).
  • Cynnig diamod – mae’ch plentyn/gward wedi cael cynnig lle i astudio yn y Brifysgol beth bynnag fydd unrhyw ganlyniadau sydd heb eu cyhoeddi eto.
  • Dewis cadarn – y Brifysgol y mae’ch plentyn/gward wedi ymgeisio amdani ac sydd ar frig eu dewisiadau (eu dewis cyntaf).
  • Dewis wrth gefn – y Brifysgol y mae’ch plentyn/gward wedi dewis ymgeisio amdani rhag ofn na chânt eu derbyn yn y Brifysgol a oedd yn ddewis cadarn (eu hail ddewis).
  • Clirio – os nad oes gan eich plentyn/gward yr un cynnig am le mewn prifysgol ar ôl cael eu canlyniadau, gallant wneud cais drwy’r drefn glirio; bydd UCAS yn rhestru’r prifysgolion a’r cyrsiau lle y mae lleoedd yn dal i fod ar gael. 
  • Porth Llety – y Porth Llety yw’r gwasanaeth ar-lein a ddefnyddir i wneud cais am lety a chadarnhau llety ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Cynnig Llety - anfonir cynnig llety drwy e-bost at eich plentyn/gward a bydd angen iddynt ei dderbyn neu ei wrthod erbyn dyddiad cau penodol.
  • Pecyn Trwydded Llety – ar ôl i chi dderbyn eich cynnig llety, bydd angen i chi gwblhau proses y Pecyn Trwydded Llety erbyn y dyddiad cau a roddir. Mae’r drefn hon yn cynnwys: cytuno i delerau ac amodau eich Cytundeb Trwydded Llety, talu’r ffi dderbyn o £100, trefnu cynllun talu am eich ffioedd llety, gwneud cais i fyw gyda ffrindiau (dewis sydd ar gael os yw eich plentyn/gward yn adnabod rhywun yr hoffent fyw gyda nhw) a chwblhau ein rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd.
  • Ymgynefino cyn cyrraedd – mae’r rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd yn rhoi cyfle i’ch plentyn/gward i ddewis dyddiad cyrraedd a chael eu ffurflen rhyddhau allwedd, ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am fyw yn y llety.
  • Ffurflen Rhyddhau Allwedd – wrth gwblhau’r rhaglen ymgynefino cyn cyrraedd, bydd Ffurflen Rhyddhau Allwedd yn cael ei chreu. Mae angen cyflwyno’r ffurflen hon wrth gyrraedd er mwyn i’ch plentyn/gward gael allwedd y llety; gellir dangos fersiwn electronig neu fersiwn wedi’i argraffu.
  • Penwythnos Mawr y Croeso – dyma’r penwythnos pan fydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn cyrraedd ac yn symud i fyw yn eu llety; fe welwch yr union amseroedd yn yr adran dyddiadau allweddol.
  • Wythnos ymgartrefu – nod yr wythnos ymgartrefu yw cyflwyno eich plentyn/gward i wasanaethau’r Brifysgol, cael cyfle i gwrdd â’u cyd-fyfyrwyr, dod i adnabod eu hadran academaidd a dod yn gyfarwydd â bywyd prifysgol cyn i’r dysgu ddechrau; fe welwch yr union ddyddiadau yn yr adran dyddiadau allweddol.

Sut mae cael gweld ble bydd fy mhlentyn/gward yn aros?

Y ffordd orau o gael gweld pa lety sydd ar gael i’ch plentyn/gward yw dod i un o’n diwrnodau agored (mae’r dyddiadau ar y dudalen diwrnodau agored i israddedigion). Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnal diwrnodau ymweld rhwng mis Ionawr a mis Mawrth i fyfyrwyr sydd wedi cael cynnig gan Brifysgol Aberystwyth. Dyma gyfle arall i chi gael gweld y llety sydd ar gael.

Sylwer: efallai na fydd yn bosib i chi weld yr holl opsiynau llety oherwydd bydd myfyrwyr yn byw yno ac mae angen cael caniatâd i fynd i mewn i’w fflatiau/ystafelloedd. Os na allwch ddod i ddiwrnod agored, mae gennym wybodaeth, lluniau a theithiau rhithwir o amgylch ein llety ar ein tudalen Opsiynau Llety.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amryw o wahanol fathau o lety a hyd trwyddedau sy’n addas i ystod eang o fyfyrwyr.

Caiff myfyrwyr ddewis trwydded 39, 40 neu 50 wythnos. Sylwer: i uwchraddedigion yn bennaf y mae’r trwyddedau 50 wythnos. Mae gennym hefyd ystafelloedd safonol, ystafelloedd en-suite a fflatiau stiwdio hunangynhaliol. Llety hunanarlwyo a gynigir yma gan mwyaf. Ond rydym hefyd yn cynnig un neuadd arlwyo (i fyfyrwyr Cymraeg yn unig) ac un neuadd rhan-arlwyo. Mae pob neuadd yn cynnig ‘cynllun prydau bwyd’ lle y gall myfyrwyr ychwanegu pecyn at eu Cerdyn Aber er mwyn cael un pryd y dydd yn un o gaffis, bwytai neu siopau bwyd y Brifysgol yn ogystal â 10% o ostyngiad wrth y til ym mhob un o gaffis a bwytai’r Brifysgol gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau! I gael gwybod mwy am y pecynnau prydau bwyd sydd ar gael, ewch i’n tudalen pecynnau bwyd a diod.

Gwneud Cais am Lety’r Brifysgol

Rydym am ei gwneud mor hawdd a didrafferth â phosib i chi i wneud cais am Lety’r Brifysgol. Fe fydd yn dda gennych glywed ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf!*

Er mwyn bod yn gymwys i gael lle wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais am lety’n dod i law erbyn 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs, a’u bod yn ymateb i’r cynnig llety erbyn y dyddiad cau a roddir yn y Cynnig Llety. Sylwer ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, ond nid mewn math arbennig o ystafell neu leoliad.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn gwahodd ymgeiswyr i wneud cais am Lety’r Brifysgol pan fydd ganddynt statws diamod cadarn (UF), diamod wrth gefn (UI), amodol cadarn (CF) neu amodol wrth gefn (CI). Byddwn yn eu gwahodd drwy’r post a hefyd drwy ebost, fel arfer ddechrau mis Ebrill yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs, felly gwnewch yn siŵr eu bod yn darllen eu negeseuon ebost yn rheolaidd.

Sylwer: ni fydd cynnig llety’n cael ei anfon hyd nes y bydd ganddynt le diamod i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a hwythau wedi cadarnhau hynny fel dewis cadarn ar UCAS, h.y Cynnig Diamod Cadarn wedi’i Dderbyn.

Clirio:

Byddwn yn dal i warantu lle yn llety’r Brifysgol neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol* ar yr amod eu bod yn gwneud cais cyn 1 Medi yn y flwyddyn pan fyddant yn dechrau eu cwrs a’u bod yn ymateb i’r cynnig llety erbyn y dyddiad cau a roddir yn y Cynnig Llety. Sylwer ein bod yn gwarantu lle yn llety’r Brifysgol, neu mewn llety a reolir gan y Brifysgol, ond nid mewn math arbennig o ystafell neu leoliad.

Byddwn yn gwahodd myfyrwyr clirio i wneud cais am Lety’r Brifysgol ar ôl iddynt dderbyn y cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a phan fydd ganddynt statws diamod cadarn. Byddwn yn gwneud hyn drwy ebost, felly gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/gward yn darllen eu negeseuon ebost yn rheolaidd.

I gael gwybod mwy, ewch i’r dudalen clirio ar ein gwefan.

*Mae Telerau ac Amodau ynghlwm wrth hyn – gweler ein Polisi Blaenoriaethau i gael rhagor o fanylion.

Nodir isod y camau syml i wneud cais am Lety’r Brifysgol:

1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r Opsiynau Llety – byddwn yn gofyn i’ch plentyn/gward eu rhoi yn nhrefn blaenoriaeth lle 1 yw’r dewis cyntaf, 2 yw’r ail ddewis ac yn y blaen.

2. Mewngofnodwch i’r porth llety pan fydd y broses ymgeisio’n agor – mae’r union ddyddiadau ar gael ar ein tudalen i fyfyrwyr newydd.

3. Dewiswch y flwyddyn fynediad berthnasol.

4. Dewiswch ffurflen gais.

5. Cwblhewch y broses gan roi cymaint o fanylion â phosib ym mhob adran. Dyma’r adrannau:

a. Eich manylion – bydd angen i’ch plentyn/gward roi cyfeiriad ebost a fydd yn cael ei ddefnyddio i anfon unrhyw ohebiaeth hyd nes y bydd eu cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth ar waith (o fis Gorffennaf ymlaen fel arfer). Rydym yn eu cynghori i beidio â defnyddio cyfeiriadau ebost ysgol/coleg oherwydd mae’n bosib y bydd y rhain yn mynd yn segur.

b. Opsiynau llety – bydd angen i’ch plentyn/gward roi’r holl opsiynau llety sydd ar gael iddynt yn nhrefn blaenoriaeth lle 1 yw’r dewis cyntaf, 2 yw’r ail ddewis ac yn y blaen. Mae rhagor o wybodaeth am yr Opsiynau Llety gan gynnwys Ffioedd Llety, lluniau a fideos ar gael ar y tudalennau Llety ar ein gwefan.

c. Dewisiadau llety – caiff eich plentyn/gward wneud cais i fyw gyda myfyrwyr o’r un rhywedd. Sylwer: mae hyn yn dibynnu ar y llety sydd ar gael ac ni ellir ei warantu, ond fe wnawn ein gorau glas bob amser i fodloni anghenion ein myfyrwyr.

d. Anableddau ac iechyd – os oes gan eich plentyn/gward unrhyw anableddau neu anawsterau iechyd neu ddysgu hirsefydlog, dylent eu nodi yn yr adran hon er mwyn i ni allu trefnu cymorth priodol iddynt. Bydd yn rhaid i’ch plentyn/gward gyflwyno tystiolaeth i ategu’r cais; os na wneir hynny mae’n bosib y bydd oedi yn y broses ac efallai na fydd eu dewis cyntaf ar gael. I ddarparu tystiolaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Hygyrchedd neu disability@aber.ac.uk neu 01970 621761. Sylwer: mae llety’n cael ei ddyrannu’n unol â’r hyn sydd ar gael, ond fe wnawn ein gorau glas bob amser i fodloni anghenion ein myfyrwyr.

e. Adolygu a chyflwyno – gwnewch yn siŵr bod eich plentyn/gward yn darllen yr holl wybodaeth y maent wedi’i rhoi er mwyn sicrhau ei bod yn gywir oherwydd ni fydd modd iddynt newid dim byd ar ôl cyflwyno’r cais.

6. Cyflwynwch y cais.

I gael gwybod mwy am wneud cais am Lety’r Brifysgol, ewch i’n tudalen sut mae gwneud cais.

Symud allan

Bydd yn rhaid i’ch plentyn/gward sicrhau cyn gadael eu bod wedi glanhau eu hystafell i’r un safon ag yr oedd pan symudon nhw i mewn, ac mae hynny’n cynnwys y mannau cymunedol a’r cyfleusterau en-suite. Bydd angen sicrhau hefyd fod yr holl eitemau ar y rhestr gynnwys (gan gynnwys y gorchudd matres) yn dal yn yr ystafell/man cymunedol ac mae’n rhaid

iddynt fod mewn cyflwr da, heb eu difrodi. Ar ôl iddynt adael, cynhelir archwiliadau i weld pa mor lân yw’r ystafell/man cymunedol a beth yw cyflwr yr eitemau ar y rhestr gynnwys. Os byddwn yn meddwl bod rhywbeth yn fudr neu os gwelwn ddifrod, mae’n bosib y byddwn yn codi tâl am hynny.

Mae’n RHAID i’ch plentyn/gward gofnodi eu bod yn gadael p’un a oes ganddynt allwedd ai peidio. Mae’n rhaid iddynt ddychwelyd eu hallweddi os oes ganddynt rai, ond hyd yn oed os nad oes ganddynt allweddi, mae angen iddynt ddod i lofnodi i ddweud eu bod yn gadael er mwyn i ni wybod bod yr ystafell yn wag. Does dim angen iddynt roi gwybod i ni ymlaen llaw eu bod yn symud allan, dim ond iddynt ddod i’r Swyddfa Llety, y Sgubor, Fferm Penglais yn ystod oriau swyddfa (Dydd Llun i Dydd Lau 8.30-17.00 a Dydd Gwener 8.30-16:30) neu i Dderbynfa’r Campws, Campws Penglais, y tu allan i’r oriau hynny.

Bydd blaendal eich plentyn/gward yn cael ei ddychwelyd ymhen 28 diwrnod wedi i’r Drwydded ddod i ben. Bydd unrhyw daliadau a godwyd arnynt tra oeddent yn byw gyda ni neu ar ôl iddynt symud allan yn cael eu tynnu o’r blaendal hwn. Er mwyn derbyn y blaendal yn ôl, bydd angen i’ch plentyn/gward roi eu manylion banc i ni drwy eu cofnod myfyriwr. Anfonir ebost atynt cyn y dyddiad pan fo disgwyl iddynt adael yn eu hatgoffa i wneud hyn.

Yn anffodus, ni fyddwn yn gallu ailgyfeirio post eich plentyn/gward ar ôl iddynt adael, felly mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn newid eu cyfeiriad neu’n gwneud trefniadau priodol megis drwy wasanaeth ailgyfeirio’r Post Brenhinol.

I gael gwybod mwy am symud allan, ewch i’n tudalen symud allan.

Llety Haf

Os na all eich plentyn/gward fynd adref dros yr haf, neu os nad yw eisiau gwneud hynny, mae gennym rai lleoedd yn ein Llety Haf.

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Llety Haf.

Llety’r flwyddyn nesaf

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn falch o gynnig llety’r Brifysgol, neu lety a reolir gan y Brifysgol, i’n holl fyfyrwyr, p’un a ydynt ym mlwyddyn 1af eu hastudiaethau, neu’r 2il, y 3edd neu hyd yn oed y 4edd – heb orfod talu blaendal arall!*

Yn draddodiadol, mae myfyrwyr yn dechrau chwilio am rywle i fyw o fis Tachwedd ymlaen yn barod at fis Medi y flwyddyn wedyn, sy’n rhoi digon o amser i chi i benderfynu ble i fyw a gyda phwy.

Unwaith y byddwch wedi llofnodi cytundeb llety (ac wedi talu unrhyw flaendal sy’n ddyledus) mae’n anodd iawn, ac weithiau’n amhosib, newid eich meddwl, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth cyn penderfynu.

* Os ydych eisoes wedi talu blaendal i ni byddwn yn cadw beth bynnag sy’n weddill ohono ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf – ond os yw’r swm sy’n weddill yn is na’r £100 angenrheidiol bydd angen i chi dalu’r gweddill.

Pam ddylai eich plentyn/gward ddod yn ôl atom i fyw?

  • Hyd yn oed os byddant yn gwneud cais, fyddan nhw ddim wedi ymrwymo i’r drwydded hyd nes iddynt gadarnhau eu lle yn nes ymlaen.
  • Mae’r biliau ynni i gyd wedi’u cynnwys, ynghyd â chyswllt gwifredig a di-wifr cyflym â’r we ac yswiriant eiddo personol.
  • Fe gânt aelodaeth blatinwm yn rhad ac am ddim o’r ganolfan chwaraeon i hybu eu hiechyd a’u lles!
  • Fe gânt fyw gyda’u ffrindiau mewn fflat/tŷ 2-10 ystafell wely, heb fod yn gymysg â myfyrwyr y flwyddyn gyntaf.
  • Llety ar/ger y campws ac yn y dref.
  • Adnoddau golchi dillad ar y safle, cymorth 24/7 gan gynnwys derbynfa lle mae staff ar gael a chanolfannau dysgu lle y gall eich plentyn/gward fynd i weithio, ymlacio a chymdeithasu.
  • Cynlluniau talu ar gael ar gyfer ffioedd llety.
  • Cytundebau un drwydded – nid ar y cyd ac unigol.
  • Does dim angen ‘gwarantwyr’ – ac felly fyddwch chi ddim yn atebol os na fydd eich plentyn/gward yn talu’r rhent.
  • Gwahanol gyfnodau ar gael ar gyfer y drwydded ynghyd â Llety Haf.

Gallwch gymharu prisiau Llety’r Brifysgol â phrisiau’r sector preifat drwy ddefnyddio ein tabl cymharu!

I gael gwybod mwy, ewch i’n tudalen Myfyrwyr Presennol.

Dyddiadau Allweddol

Cyfeiriwch at Dyddiadau i'ch Dyddiadur ar gyfer eich adran Dyddiadur ar ein gwefan

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweler y Canllawiau i Rieni Israddedigion hefyd am ragor o wybodaeth a chanllawiau am ddechrau yn y Brifysgol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sydd heb eu hateb am Lety’r Brifysgol, gweler ein Cwestiynau Cyffredin neu ffoniwch 01970 622984.

Am y newyddion diweddaraf am bopeth sy’n ymwneud â llety, dilynwch ein tudalen ar Facebook.