- Pryd gaf fi wneud cais am lety?
Os ydych wedi derbyn cynnig i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth (a all fod yn amodol), byddwch yn gallu gwneud cais am lety o 4ydd Mawrth 2025. Fodd bynnag, byddwch yn gallu cofrestru eich hun ar y Porth Llety o 17 Chwefror 2025.
- Pa lety allaf fi ei archebu?
Rosser G yw ein neuadd i uwchraddedigion, sy'n cynnig cyfleusterau en-suite a chontract 50 wythnos sy'n addas i'ch cwrs. Gall myfyrwyr hefyd wneud cais i Fferm Penglais, Pentre Jane Morgan a Chwrt Mawr, ond bydd hyd y contract yn wahanol. Gweler ein tudalen Dewisiadau Llety i gael mwy o fanylion.
- A oes sicrwydd y caf fi lety?
Gwarantir llety i fyfyrwyr uwchraddedig newydd ar yr amod eich bod yn gwneud cais erbyn 1 Medi, yn y flwyddyn mynediad.
Noder, ni allwn warantu math penodol o neuadd.
- Sut mae gwneud cais am lety?
Gall myfyrwyr wneud cais am lety ar y Porth Llety *insert link* a gallant ddewis eu hystafell eu hunain o'r opsiynau a ddangosir.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen we ‘Sut i wneud cais’.
- Ydw i'n gymwys i gael Llety Haf rhwng fy nghwrs israddedig ac uwchraddedig?
Yn anffodus, ni fyddwch yn gymwys i gael Llety Haf yn ystod y cyfnod pontio hwn, gan na fyddwch bellach yn fyfyriwr cofrestredig.
- Pryd allaf fi gwblhau fy Nghontract Meddiannaeth Llety?
Pan fydd eich cynnig yn newid i ‘Diamod’, bydd modd i chi gwblhau gweddill eich Contract Meddiannaeth i sicrhau’ch ystafell.
- Pryd allaf fi symud i mewn i’r ystafell?
Bydd modd i chi symud i mewn i’ch ystafell o Ddyddiad Dechrau’r Contract. Os bydd angen i chi gyrraedd yn gynt, bydd angen i'r Swyddfa Llety awdurdodi hyn (accommodation@aber.ac.uk)