Symud Allan
Efallai eich bod ar ddiwedd eich Contract Meddiannaeth, yn symud ystafell, neu’n gadael y neuaddau yn gynt na’r disgwyl, y naill ffordd neu’r llall, rydym yn drist eich bod yn gadael. I hwyluso’r broses o adael rydym wedi nodi rhai manylion pwysig i chi eu cofio.
Pan fyddwch yn gadael eich llety gadewch ef yn lân ac yn daclus os gwelwch yn dda – fel y gawsoch chi ef – mae'n bosibl y bydd taliadau'n codi os na fyddant.
Nodyn i’ch atgoffa…
Chi sy’n gyfrifol am lendid eich ystafell wely / stiwdio.
Mae’r holl breswylwyr yn eich fflat/tŷ yn gyfrifol am lanhau’r ardaloedd cymunedol (cegin, ystafelloedd ymolchi, coridorau ac ati).
Er mwyn helpu chi ar eich ffordd, rydym wedi paratoi Rhestr Wirio Glanhau - beth am lawrlwytho ac argraffu copi i osod yn eich cegin i bawb allu gyfeirio ato a’i defnyddio!
Pan yn gadael eich ystafell wely, gwnewch yn siwr bod yr holl eitemau ar eich rhestr cynnwys ystafell yn bresennol ac unrhyw ddodrefn yn cael ei ddychwelyd i’w leoliad gwreiddiol. Os eich bod wedi dod a unrhyw eitemau ychwanegol o ddodrefn / nwyddau gwyn i mewn i’r cartref tra’n byw gyda ni, gwnewch yn siŵr eich bod chi yn mynd a nhw adref gyda chi. Os bydd y rhain yn cael eu gadael ar ôl, mi fyddwn yn codi tâl arnoch i gael gwared o’r nwyddau.
Cyn gadael eich ystafell, mae’n bwysig i chi roi gwybod i ni am unrhyw ddifrod neu nam yn eich ystafell wely a’r ardaloedd cymunedol. Gallwch wneud hyn naill ai drwy ebostio llety@aber.ac.uk neu drwy gwblhau y Ffurflen Rhoi Gwybod am Nam ar-lein.
Byddwch yn ymwybodol y gall tâl fod yn ddyledus am eitemau coll neu sydd wedi torri.
Wrth i chi a’ch cyd-letywyr adael un wrth un, mi fydd y Tîm Preswylfeydd yn galw i mewn i wneud arlowg o bob ystafell gwely, a gwneud yn siwr ei bod wedi’i adael yn lân ac yn daclus, ac yn rhydd o sbwriel ac eiddo personol. Bydd pob ystafell wely a man cymunedol yn cael eu harchwilio eleni cyn diewdd eich cytundeb trwydded. Fe gewch wybod drwy e-bost am ddiwrnod eich arolygiad.
Os oes unrhyw ddifrod, angen glanhau ychwanegol, neu os bydd angen i ni gael gwared ar unrhyw sbwriel, efallai y codir tâl. Os eich bod yn dewis gadael yn gynnar, cofiwch eich bod dal yn gyd-gyfrifol am yr ardaloedd cymunedol. Edrychwch yn Y Llawlyfr Llety i gael manylion am gostau glanhau a difrod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn a’r gwiriadau symud allan, peidiwch ag oedi i gysylltu â'r Tîm Preswylfeydd yn y Dderbynfa yn Y Sgubor, Fferm Penglais.
Peidiwch â thaflu unrhyw eitemau diangen i ffwrdd sydd mewn cyflwr da.
Os yw eich eitemau mewn cyflwr da, byddwn yn eu rhoi i elusennau lleol ac Undeb y Myfyrwyr.
Beth i roi:
- Bwyd - unrhyw eitemau heb eu hagor, nad all ddarfod a mewn dyddiad fel pasta, cawl, saws a grawnfwyd.
- Nwyddau ymolchi - unrhyw siampŵ, jel cawod, powdr golchi ayyb. PEIDIWCH â dod â llafnau rasel, bariau o sebon neu diwbiau o bast dannedd os gwelwch yn dda.
- Offer Cegin - Potiau a sosbenni, llestri, cyllyll a ffyrc neu unrhyw eitemau cegin erail. (Dim eitemau budr na llosg.)
- Dillad gwely a chlustogau - PEIDIWCH a dod a gobenyddion na duvet.
- Llyfrau a gemau
Ble i roi:
Mae mannau casglu rhoddion yn y lleoliadau canlynol:-
- Storfa Feiciau 2, Fferm Penglais wirth ymyl bloc 5 (09:00 - 17:00)
- Canolfan Ddysgu Rosser D (24awr)
- Lolfa Gymunedol PJM (24awr)
- Pantycelyn - Ystafell Gyffredin Iau
Sut i roi:
Rhowch yr eitemau yn y bocsys sydd wedi’u labeli ym mhob Pwynt Casglu Symud Ymlaen.
Pryd i roi:
Dydd Llun Mai 13fed - ddydd Gwener Mehefin 30fed 2024.
Pan fyddwch yn barod i adael mae’n bwysig eich bod yn dod i’n gweld er mwyn allgofrestru o’ch llety - hyd yn oed os nad ydych yn dychwelyd allwedd.
Pryd y gallaf i allgofrestru?
Mi fydd angen i chi adael a cloi eich ystafell, a allgofrestru o'ch llety erbyn 10yb ar diwrnod olaf eich contract meddiannaeth. Mi fydd y dyddiad yma yn ddibynol ar lle yr ydych yn byw, felly dewiswch eich llety o'r rhestr isod i gadarnhau pryd sydd angen i chi symud allan erbryn.
-
Cwrt Mawr, Rosser (ac eithrio Rosser G), Trefloyne, Pantycelyn, PJM - Dydd Gwener 21ain o Fehefin 2024.
-
Fferm Penglais - Dydd Gwener 28ain o Fehefin 2024.
-
Rosser G- Dydd Gwener 6ed o Fedi 2024.
Mae croeso i chi adael eich ystafell cyn y dyddiad hwn, ond cofiwch y bydd yn rhaid i chi barhau i dalu ffioedd llety tan ddiwedd eich cytundeb trwydded. Yn anffodus, ni allwn fodloni unrhyw geisiadau i aros yn hirach.
Pan fyddwch yn allgofrestru bydd yn rhaid i chi ddychwelyd pob un o’ch allweddi/ffobiau, yn cynnwys eich allwedd blwch post i ni. Nid oes angen i chi roi eich Cerdyn Aber i ni, ond mae'n bwysig eich bod chi'n dod i'n gweld er mwyn allgofrestu o'ch llety. Sylwer: Hyd yn oed nad oes gennych allwedd i ddychwelyd atom, mae dal angen i chi ddod i'n gweld ni er mwyn i chi allgofrestru. Os nad ydych yn dychwelyd eich allwedd(i)/ffob/allwedd blwch post erbyn 10yb ar ddiwrnod olaf eich cytundeb trwydded bydd yn rhaid i chi dalu £30 am bob allwedd/ffob a £10 am bob allwedd blwch post (os yw’n berthnasol). Peidiwch â gadael eich allwedd/ffob/allwedd blwch post yn yr ystafell na rhoi’r allwedd i ffrind.
Ble allai fynd i allgofrestru?
- Dydd Llun – Dydd Iau 8:30-17:00 a Ddydd Gwener 8:30-16:00 - Swyddfa Llety, Y Sgubor, Fferm Penglais
-
Tu allan yr oriau hyn, yn cynnwys nosweithiau a penwythnosau - Derbynfa’r Campws, Campws Penglais.
Yn anffodus, ni fydd modd i ni anfon post ymlaen atoch ar ôl i chi adael, felly rydym yn eich cynghori i drefnu i'ch post gael ei ailgyfeirio. Gall hyn gymryd sawl diwrnod gwaith felly gwnewch yn siwr eich bod chi'n gadael digon o amser i hyn fod mewn lle cyn i chi adael. Gallwch wneud hyn trwy gysyllltu â'r Post Brenhinol.
Bydd unrhyw bost sy’n cyrraedd ar ôl i chi symud allan yn cael ei anfon yn ôl at yr anfonwr.
Yn anffodus, ni allwn gynnig cyfleusterau storio a fewn y Brifysgol ond mae gennym manylion o nifer o gwmnïau storio lleol. Cysylltwch a (llety@aber.ac.uk) ni os eich bod am rhagor o wybodaeth.
Lawr-lwythwch ein Rhestr wirio symud allan i sicrhau eich bod chi’n cofio popeth!
Os ydych yn aros yn Aberystwyth dros yr haf ac os hoffech aros yn Llety'r Brifysgol, gallwn gynnig llety dros yr haf.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, archebu lle, neu os ydych eisoes wedi archebu lle ac eisiau cadarnhau'r trefniadau symud i mewn, gweler y tudalennau Llety Haf.