Sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Milfeddygaeth Aberystwyth gyda chynlluniau datblygu
![Aelodau bwrdd ymgynghorol newydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth](/cy/vet-sci/news/news-article/Bwrdd-Gorau-4.jpg)
Aelodau bwrdd ymgynghorol newydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth
05 Tachwedd 2024
Mae bwrdd ymgynghorol newydd Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth wedi cwrdd am y tro cyntaf er mwyn trafod cynlluniau i ddatblygu ymhellach.
Mae sefydlu’r bwrdd newydd yn adeiladu ar nifer o elfennau sydd eu hychwanegu at yr Ysgol ers iddi gael ei hagor yn 2021 gan y Brenin Siarl III fel y gyntaf a’r unig un yng Nghymru.
Ymysg yr aelodau mae cynrychiolwyr o’r undebau amaethyddol, y proffesiwn milfeddygol, Llywodraeth Cymru ynghyd ag arbenigwyr allanol.
Yn dilyn tair blynedd o addysgu milfeddygon, dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio milfeddygol ar eu hastudiaethau eleni.
Yn ogystal, ym mis Medi, agorodd ffug-glinig milfeddygol newydd ar safle’r Ysgol ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r buddsoddiad a datblygiadau newydd yn ychwanegol at y £2 filiwn a mwy a wariwyd i sefydlu cyfleusterau’r Ysgol.
Dywedodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:
“Mae sefydlu’r bwrdd yn gyfle i ni ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd i drin a thrafod y camau nesaf yn nhaith yr Ysgol. Mae’n galonogol iawn bod cynifer o bobl ddawnus yn fodlon cyfrannu eu hamser at y gwaith hwn. Ein nod yw i barhau i ddarparu addysg o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr ynghyd â chwrdd ag anghenion y proffesiwn milfeddygol Cymreig a chymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd.
“Bellach mae gan Gymru ei Hysgol Filfeddygaeth ei hun sy’n deall ac sy’n diwallu anghenion ei chymuned filfeddygol ei hun - o ddarparu graddedigion sy’n gallu siarad Cymraeg, sy’n dod o Gymru ac sydd felly’n fwy tebygol o aros yng Nghymru, i gefnogi'r proffesiwn gyda hyfforddiant uwchraddedig a chynnal gwaith ymchwil sy’n rhagorol ac sy’n berthnasol yn lleol.
“Trwy gyfoethogi’r proffesiwn, rydym yn cefnogi nid yn unig y gymuned ffermio ond perchnogion anifeiliaid anwes, pawb sy’n ymwneud â cheffylau a marchogaeth, y llywodraeth genedlaethol ac, yn y pen draw, cymdeithas Cymru. Dyna hefyd pam mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi cymaint i greu canolfan ragoriaeth ym maes iechyd anifeiliaid i ychwanegu at ein llwyfannau presennol - o labordai o’r radd flaenaf i arbenigedd o’r safon uchaf mewn ymchwil i TB mewn gwartheg.”
Ychwanegodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Bywyd a Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth eisoes yn gwneud cyfraniad mawr i’r gymuned amaethyddol a’r proffesiwn milfeddygol. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r bwrdd newydd hwn a chael y cyfle i drafod sut y gallwn ni adeiladu ar ei llwyddiant dros y blynyddoedd sydd i ddod.”