Monitro Gweithredol
Mae Mind yn cynnig gwasanaeth cymorth gwych am ddim o'r enw Monitro Gweithredol. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i'r rhai sy'n chwilio am gymorth â phryderon sy'n gysylltiedig â phroblemau lles neu iechyd meddwl, ac i helpu â phryderon, ni waeth pa mor fawr neu fach fo'r pryderon hynny. Mae'r prosiect yn ymwneud â:
- Gorbryder
- Iselder
- Hunan barch
- Straen
- Teimlo'n Unig
- Rheoli Dicter
- Galar a cholled
Mae Monitro Gweithredol yn rhaglen hunangymorth gydag arweiniad sydd ar gael am ddim i'ch helpu chi i ddeall eich hun a'ch teimladau yn well. Golyga hynny roi'r holl gyngor a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn ichi ddod i ddeall eich hun yn well. Byddwch yn cael cefnogaeth drwy gydol y cwrs gyda galwadau ffôn a sgyrsiau rheolaidd.
Ble caf i ragor o wybodaeth?
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth gwych hwn, ewch i wefan Mind.
Sut y gallaf gofrestru ar y rhaglen hon?
Os ydych chi'n teimlo y gallai'r gwasanaeth hwn fod o fudd ichi, cysylltwch â Mind neu llenwch y ffurflen hunangyfeirio isod a'i dychwelyd i info@mindaberystwyth.org.