Mind

Mae Mind Aberystwyth yn elusen iechyd meddwl, sy'n gweithio ar draws Ceredigion. Maent yn rhoi cefnogaeth ac yn hyrwyddo lles drwy amrywiaeth o grwpiau gweithgaredd, gwasanaethau galw heibio a chymorth un i un â thenantiaeth.

Mae Mind yn darparu gwybodaeth a chymorth ac maent yn datblygu gwasanaethau lleol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drallod meddyliol, gan gynnwys eu gofalwyr, eu teuluoedd a'u cefnogwyr. Drwy'r ystod eang o wasanaethau gwych y maent yn eu darparu, maent yn ceisio ei gwneud yn bosib i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drallod meddyliol gymryd rhan lawn mewn cymdeithas a byw bywydau llawn.

Mae Mind yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau lles drwy'r wythnos a chewch eich atgyfeirio eich hunan fel y gallwch gymryd rhan.

Mae Mind hefyd yn cynnig nifer o wasanaethau ychwanegol:

Mae ganddynt dîm sydd ar gael i siarad â chi rhwng 9.30am a 4.30pm yn ystod yr wythnos drwy. Ffoniwch:

01970 626225

Grŵp Facebook

Cewch weld mwy o wybodaeth am eu rhaglenni, eu gwasanaethau a'r grwpiau sydd wedi'u trefnu ar eu gwefan.